Rydym yn cynnig cynllun gwella priffyrdd a hoffem glywed gennych.
Cyfeirnod y Cynllun: FGR001
Math o gynllun: Rheoli Traffig
Ward: Llanisien
Ymgynghoriad wedi cau 01/04/2022.
- Bader Close
- Cheshire Close
- Crundale Crescent
- Crystal Glen
- Fishguard Close
- Ffordd Abergwaun
- Kane Close
- Glen View
- Gibson Close
- Hannah Close
- Heathbrook
- Heol Gwyndaf
- Heol Merlin
- Portfield Crescent
- St Dogmael’s Avenue
- St Martins Crescent
- Tedder Close
- Trenchard Close
- Rhodfa Tŷ Glas (ffordd wasanaeth rhwng rhifau 1 a 63)
- Wavell Close
- Wingate Drive
- Unrhyw ffordd arall sydd ond ar gael o'r uchod
Rydym yn cynnig cyflwyno cynllun "gât trwyddedau" newydd i atal gyrwyr rhag defnyddio Ffordd Abergwaun a Crystal Glen fel toriad byr rhwng Tŷ-Glas Avenue a Heathwood Road.
Mae giât drwydded yn ddarn byr o ffordd gyfyngedig sy'n caniatáu i ddeiliaid a thacsis yrru ynddi yn unig. Fe'i lleolir ar Crystal Glen, gan ddechrau wrth ei chyffordd â Fishguard Close a gorffen tua 10 metr i'r gogledd o'r un gyffordd.
Bydd preswylwyr yn gallu gwneud cais am drwyddedau am ddim ar gyfer eu cerbydau. Bydd angen i yrwyr heb drwyddedau, megis gyrwyr dosbarthu ac ymwelwyr, adael yr ardal yn yr un ffordd ag y daethant i mewn. Bydd camera gorfodi teledu cylch cyfyng yn monitro’r gât trwyddedau a bydd cerbydau anawdurdodedig yn derbyn Hysbysiad Tâl Cosb.
Bydd llinellau melyn dwbl yn cael eu cyflwyno o amgylch ardal gât y drwydded i ddarparu lle troi ar gyfer cerbydau a sicrhau bod yr arwyddion traffig yn amlwg.
Bydd y cynllun yn cael ei dreialu am 18 mis fel y gallwn fonitro ei effeithiolrwydd. Os yw'n llwyddiannus, yna gellir ei wneud yn barhaol.
Dweud eich dweud
Mae'r ymgynghoriad hwn bellach wedi dod i ben.
Y penderfyniad yw bwrw ymlaen â'r cynllun gyda:
- 65% o ymatebion o blaid,
- 34% yn ei erbyn, a
- 1% yn ansicr.
Byddwn yn cyflwyno'r cynllun gyda'r newidiadau hyn:
- giât drwydded yn unig o Ddydd Llun i Ddydd Sadwrn, 7am – 7pm,
- gall preswylwyr wneud cais am drwyddedau ymwelwyr, a
- gall busnesau, addoldai ac adeiladau cymunedol gael hyd at 10 trwydded at ddibenion gweithredol ar sail y cyntaf i'r felin.
Os ydych yn breswylydd neu'n fusnes yn yr ardal, byddwch yn derbyn llythyr gyda mwy o fanylion yn y man.