Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Cynigion Parcio Ardal Nant y Wedal

​​Cynigiwyd cyfyngiadau parcio newydd ar Nant Y Wedal a Heol Wedal.

Roedd y cynigion hyn ar gyfer cyflwyno:​

  • Ardal Parcio â Thrwydded i Breswylwyr ar Nant y Wedal, 
  • Talu ac aros ar hyd Heol Wedal, a
  • Llinellau melyn i atal parcio sy’n peri rhwystr ar gorneli​.


Bydd hyn yn helpu gyda’r canlynol:

  • diogelu lle i drigolion a'u hymwelwyr, 
  • atal parcio rhwystrol,
  • atal cymudwyr, ac 
  • annog y defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus, beicio a cherdded.


Mae Ardal Parcio â Thrwydded yn ardal lle nad oes mannau parcio wedi'u paentio ar y ffordd ond bydd angen trwydded ddilys ar unrhyw gerbydau sy'n parcio yn yr ardal. 

Mae gyrwyr yn cael gwybod eu bod yn mynd i mewn i Ardal Parcio â Thrwydded drwy arwyddion wrth y fynedfa. 

Bydd hawl gan eiddo i gael hyd at ddwy drwydded fesul aelwyd ar gyfer cerbydau sy'n eiddo i’r preswylwyr ynghyd â thrwydded ymwelwyr. Ni fydd angen trwydded ar gerbydau sydd wedi parcio ar ddreifiau preifat.

Byddai parcio â thâl ar Heol Wedal yn gymwys o ddydd Llun i ddydd Gwener. Byddai deiliaid trwyddedau yn cael parcio am ddim yn y mannau parcio ac aros ar Heol Wedal. 

Adborth

Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben ar 21 Gorffennaf 2023. 

Roedd 61% o ymatebwyr o blaid y cynigion.

Yn dilyn yr adborth hwn, rydym wedi penderfynu bwrw ymlaen â'r cynllun a dechrau'r broses Gorchymyn Rheoleiddio Traffig (GRhT).

Mae llunio GRhT yn broses hir a gall gymryd rhwng 6 a 9 mis i'w gwblhau.

Ar adeg benodol yn y broses bydd modd i chi weld dyluniadau parcio manwl a gwrthwynebu'r cynllun yn ffurfiol os ydych yn dymuno.​​​​

© 2022 Cyngor Caerdydd