Cynigiwyd cyfyngiadau parcio newydd ar Nant Y Wedal a Heol Wedal.
Roedd y cynigion hyn ar gyfer cyflwyno:
- Ardal Parcio â Thrwydded i Breswylwyr ar Nant y Wedal,
- Talu ac aros ar hyd Heol Wedal, a
- Llinellau melyn i atal parcio sy’n peri rhwystr ar gorneli.
Bydd hyn yn helpu gyda’r canlynol:
- diogelu lle i drigolion a'u hymwelwyr,
- atal parcio rhwystrol,
- atal cymudwyr, ac
- annog y defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus, beicio a cherdded.
Mae Ardal Parcio â Thrwydded yn ardal lle nad oes mannau parcio wedi'u paentio ar y ffordd ond bydd angen trwydded ddilys ar unrhyw gerbydau sy'n parcio yn yr ardal.
Mae gyrwyr yn cael gwybod eu bod yn mynd i mewn i Ardal Parcio â Thrwydded drwy arwyddion wrth y fynedfa.
Bydd hawl gan eiddo i gael hyd at ddwy drwydded fesul aelwyd ar gyfer cerbydau sy'n eiddo i’r preswylwyr ynghyd â thrwydded ymwelwyr. Ni fydd angen trwydded ar gerbydau sydd wedi parcio ar ddreifiau preifat.
Byddai parcio â thâl ar Heol Wedal yn gymwys o ddydd Llun i ddydd Gwener. Byddai deiliaid trwyddedau yn cael parcio am ddim yn y mannau parcio ac aros ar Heol Wedal.
Adborth
Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben ar 21 Gorffennaf 2023.
Roedd 61% o ymatebwyr o blaid y cynigion.
Yn dilyn yr adborth hwn, rydym wedi penderfynu bwrw ymlaen â'r cynllun a dechrau'r broses Gorchymyn Rheoleiddio Traffig (GRhT).
Mae llunio GRhT yn broses hir a gall gymryd rhwng 6 a 9 mis i'w gwblhau.
Ar adeg benodol yn y broses bydd modd i chi weld dyluniadau parcio manwl a gwrthwynebu'r cynllun yn ffurfiol os ydych yn dymuno.