Os oes gennych anghenion symudedd arbennig, gallwch ofyn am fan parcio i bobl anabl y tu allan i’ch cartref.
Caiff y man parcio ei leoli mor agos â phosibl i’ch cartref gan ystyried nodweddion y ffordd, llif y traffig ac unrhyw gyfyngiadau eraill. Cewch unrhyw un y mae ganddynt Fathodyn Glas i bobl anabl ddefnyddio’r man parcio.
Pwy all gyflwyno cais?
Byddwn yn cymeradwyo eich cais os ydych yn bodloni’r holl amodau hyn:
- Rydych chi neu rywun rydych yn byw ag ef ag anabledd parhaol ac â bathodyn glas
- Rhaid i gerbyd a gyrrwr gael ei gofrestru yn y cyfeiriad
- Heb fynediad at gyfleuster parcio oddi ar y stryd, e.e. tramwyfa neu lawr caled.
- Heb fan parcio ar y stryd sydd o fewn 25 metr o’r tŷ
Bydd angen i chi fodloni o leiaf un o’r meini prawf canlynol hefyd:
- Bod yn hŷn na 65
- Bod yn llai na 65 ac yn derbyn Cyfradd Uwch Elfen Symudedd y Taliad Annibyniaeth Bersonol
- Derbyn y Tâl Atodol Symudedd Pensiwn Rhyfel
- Unrhyw amgylchiadau eraill y mae Cyngor Dinas Caerdydd yn eu hystyried yn eithriadol a gwerth eu hystyried
Rydym yn ystyried y bobl canlynol yn ffafriol:
-
y rheiny sydd ag anawsterau dysgu neu ymddygiadol na ellir eu gadael ar eu pen eu hunain wrth symud rhwng y cartref â'r cerbyd.
- y rheiny sydd angen cymorth mecanyddol i symud, e.e. cadair olwyn, caliperau, offer prosthetig, offer codi arbennig, neu sydd angen cario cyflenwad o ocsigen.
Sut i gyflwyno cais
Os ydych yn credu eich bod yn bodloni'r gofynion a hoffech gyflwyno cais am fan parcio i bobl anabl, llenwch y ffurflen gyswllt ganlynol gan ofyn am ffurflen gais a fydd yn cael ei phostio atoch.
Unwaith y byddwn wedi derbyn eich cais, byddwn yn cysylltu â chi o fewn 8 wythnos.
Faint bydd yn cymryd i gael y lle parcio?
Er ein bod yn ceisio ymdrin â phob cais cyn gynted â phosibl, mae’r broses yn cynnwys ymgynghori â gwahanol gyrff a gwneud
Gorchmynion Rheoleiddio Traffig, felly gall gymryd hyd at 18 mis.
Beth os nad oes ei angen mwyach?
Caiff mannau parcio i bobl anabl eu hadolygu’n gyson i sicrhau bod angen amdanynt o hyd.
Os nad oes angen eich man parcio arnoch mwyach, cysylltwch â ni.