Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Gwneud cais am docyn bws

​Caiff pob person hŷn a pherson anabl deithio ar wasanaethau bws lleol am ddim yng Nghymru. 
 

Gall pobl anabl sydd angen cymorth i deithio hefyd fynd â rhywun gyda nhw am ddim.

Pwy all wneud cais am bàs bws?


Gallwch wneud cais os ydych:
 

  • yn hŷn na 60 oed
  • yn dioddef o anabledd neu anaf sy’n ei gwneud yn anodd iawn i chi gerdded yn fyddar a heb leferydd
  • yn ddall neu’n rhannol ddall yn debygol o gael eich gwrthod am drwydded gyrru adran 92 Deddf Traffig Ffyrdd 1988 – onid yw’n ymwneud â chamddefnyddio cyffuriau neu alcohol yn gyson ni allwch ddefnyddio’r ddwy fraich
  • mae gennych anabledd dysgu.

Pa fysus alla i ddefnyddio fy mhàs arnynt?

Gellir defnyddio pasys ar:



Ni ellir defnyddio’r pasys i deithio ar y National Express neu’r MegaBus.​


Mae rhagor o wybodaeth am wasanaethau bws ar gael ar wefan Traveline Cymru​​​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd
 

Mae rhai cynghorau sydd ar y ffin â Lloegr hefyd wedi trefnu i’r pasys fod yn ddilys ar lwybrau i drefi'r gororau.

Sut ydw i’n gwneud cais?

Gwnewch gais ar-lein ar wefan Trafnidiaeth Cymru​​​​​​​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd.


Bydd angen eich rhif yswiriant gwladol arnoch a llun digidol o’ch hun os ydych yn gwneud cais am y tro cyntaf.


I adnewyddu, bydd angen rhif eich pàs bws presennol arnoch.


Os oes angen ffurflen gais bapur arnoch, ffoniwch 0300 303 4240 neu gallwch gael help i wneud cais yn un o’n Hybiau Cynghori.

Colli neu ddwyn pàs

Gofynnwch am bàs newydd gan Trafnidiaeth Cymru​​​​​​​​​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd

​​​​​​​​​​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd