Mae’r Cyngor yn gyfrifol am enwi pob ffordd a stryd, ac ar gyfer enwi a rhifo pob eiddo (preswyl, masnachol a diwydiannol) yn Ninas a Sir Caerdydd.
Bydd y Post Brenhinol ond yn gallu creu a rhoi cod post i gyfeiriad pan fydd wedi’i enwi a’i rifo gan y Cyngor.
Mae’n rhaid i chi gysylltu â ni i greu neu newid cyfeiriad os ydych yn:
- cynllunio datblygiad newydd,
- yn adeiladu eiddo newydd,
- yn trosi eiddo presennol, neu
- am newid enw eiddo.
Mae’n well i chi roi gwybod i’r Cyngor am ofynion enwi a rhifo newydd cyn gynted â phosibl.
Bydd methu â gwneud hynny’n golygu na fydd y cyfeiriad a grëir yn gyfeiriad swyddogol. Bydd hyn yn arwain at broblemau.
Er enghraifft, ni fydd y Post Brenhinol, cwmnïau cludo na gwasanaethau cyfleustodau’n cydnabod y cyfeiriad; a gallai hyn arwain at anawsterau o ran cofrestru i bleidleisio a chael cardiau credyd. Yn fwy na hyn, gall y gwasanaethau Ambiwlans, Tân a’r Heddlu gael trafferth wrth geisio lleoli’r cyfeiriad mewn achos brys.
Dylid nodi hefyd bod gan y Cyngor y grym i weithredu newidiadau i gyfeiriadau answyddogol er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â chonfensiynau safonol a bod Polisi’r Cyngor o ran enwi strydoedd a rhifo’n cael ei gynnal.
Sut mae gwneud cais?
Faint fydd hyn yn costio?
Mae’r ffioedd a restrir isod yn amcan yn unig a chaiff yr union gostau eu cadarnhau unwaith y caiff y cais ei dderbyn.
Newidiadau i eiddo sydd yno eisoes (fesul cyfeiriad/adeilad)
| £142
|
Cyfeiriad newydd / Datblygiad newydd
| £142 ac £57 yr uned |
Creu enw ffordd newydd
| £142 ac £57 yr uned |
Costau ychwanegol ar gyfer datblygiadau / adeilad
o fflatiau dros y rhai a restrir uchod
| £142 fesul llawr o’r llawr cyntaf ymlaen. |
Costau ychwanegol ar gyfer newidiadau i osodiad Enwi Stryd a Rhifo ar ôl rhoi hysbysiad, gan arwain at ail-gyflwyno’r cyfeirnodau gyda’r diwygiadau
| £142 ac £57 yr uned |
Ailenwi stryd ar gais preswylydd
| £142 ac £57 yr uned |
Cadarnhau cyfeiriad i Gyfreithwyr, Asiantau Chwilio a Thrawsgludwyr
| £57.75
|
Yn ogystal, bydd angen cynnwys cynllun lleoliad â graddfa briodol (i raddfa ddim llai na 1:1250) ac yn achos datblygiad newydd – cynllun gosodiad, sy’n nodi lleoliad yr eiddo mewn perthynas â’r ardal ddaearyddol.
Beth fydd yn digwydd nesaf?
Pan fyddwch yn cyflwyno’ch cais, bydd angen ei asesu i sicrhau bod yr holl fanylion angenrheidiol wedi’u nodi. Pan fydd eich cais yn cael ei gymeradwyo byddwch yn derbyn cadarnhad dros e-bost a’r ffioedd sy’n daladwy, y byddwch yn gallu eu
talu am eich cais enwi a rhifo strydoedd ar-lein.
Unwaith y mae’r broses Enwi Strydoedd a Rhifo wedi dod i ben, byddwch yn derbyn e-bost gyda llythyr cadarnhau. Gallwch fewngofnodi yn ystod unrhyw gam i
weld statws eich cais enwi a rhifo strydoedd.
Rhoi gwybod am broblem arwydd ffordd