Trwyddedau Mynediad
Mae trwyddedau mynediad traffig yn caniatáu i chi yrru cerbydau nwyddau trwm ar hyd rhai ffyrdd cyfyngedig pan fydd angen mynediad arnoch i lwytho / dadlwytho.
I gael mynediad rheolaidd gallwch gael Mynediad Traffig (Trwydded Ddanfon) ac ar gyfer mynediad dros dro o hyd at 7 diwrnod gallwch wneud cais am Fynediad Traffig (Hawlildiad Danfon).
Radur / Pentre-poeth
| Tŷ Nant Road
| Terfyn pwysau 7.5t
| I bob eiddo y mae mynediad iddynt o Heol Isaf neu Tŷ-Nant Road yn unig (i'r de o’r gyffordd-gylchfan â Tŷ-Nant Court)
|
Dim ond os yw eich cerbyd yn fwy na'r terfyn pwysau y bydd angen i chi wneud cais am drwydded.
Nid trwyddedau parcio yw trwyddedau mynediad, ac wrth wneud gwaith llwytho/dadlwytho mae'n rhaid cadw at unrhyw gyfyngiadau parcio ac aros sydd yn eu lle. Ni fyddant yn cael eu rhoi i gerbydau nwyddau trwm sy'n danfon i ddatblygiad Plasdŵr o dan unrhyw amgylchiadau.
Trwyddedau Danfon
Rhoddir trwyddedau danfon pan fydd angen mynediad rheolaidd arnoch i lwytho/dadlwytho.
I gadarnhau bod gennych ofyniad dilys am fynediad, bydd yn rhaid i chi wneud cais am gyfrif trwydded ddanfon yn gyntaf. Bydd angen i chi lanlwytho tystiolaeth i ddangos pam mae angen mynediad arnoch, megis:
- Amserlen neu gontract danfon, neu
- Llythyr eglurhaol ar bapur sgrifennu â phennawd y cwmni sy’n nodi’r rheswm pam fod angen mynediad ac sydd wedi’i lofnodi gan unigolyn priodol megis rheolwr neu gyfarwyddwr y cwmni.
Os derbynnir eich cais am gyfrif, byddwch wedyn yn gallu cofrestru eich cerbydau ar gyfer trwyddedau danfon. Ein nod yw adolygu pob cais am gyfrif o fewn 7 diwrnod gwaith.
Mae trwyddedau danfon am ddim a gan eu bod yn rhithwir nid oes rhaid i chi arddangos unrhyw beth yn eich cerbyd. Mae telerau ac amodau’n berthnasol.
Trwyddedau Hawlildio Dros Dro
Mae hawlildiadau danfon dros dro ar gyfer pan fydd angen mynediad tymor byr arnoch i lwytho/dadlwytho.
Bydd angen manylion cofrestru eich cerbyd arnoch a thystiolaeth o'ch gofyniad am fynediad (fel anfoneb danfon) wrth law.
Mae hawlildiadau danfon am ddim ac yn para am hyd at 7 diwrnod. Gan eu bod yn rhithiwr ni fydd rhaid i chi arddangos unrhyw beth yn eich cerbyd. Mae telerau ac amodau’n berthnasol.
- Ewch i’n porthol trwyddedau
MiPermit CaerdyddDolen allanol yn agor mewn ffenest newydd
- Dewiswch "Mynediad i Draffig (Hawlildiad Danfon)”
- Cwblhewch y ffurflen gais. Bydd angen manylion cofrestru eich cerbyd arnoch
Lanlwythwch dystiolaeth i gadarnhau llwytho/dadlwytho, fel copi o anfoneb ddanfon neu
amserlen
Cwblhewch y broses brynu – mae Hepgoriadau Mynediad Traffig am ddim
Byddwch yn cael e-bost yn cadarnhau bod eich cais wedi bod yn llwyddiannus ynghyd â manylion eich trwydded hepgor