Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Sut mae talu'ch tâl cosb traffig

​Mae’n bosibl mai’r ffordd gyflymaf a mwyaf cyfleus fydd i dalu eich Hysbysiad Tâl Cosb (HTC) gan ddefnyddio eich cerdyn debyd neu gredyd ar-lein a defnyddio ein system ddiogel i dalu ar-lein.





Peidiwch â thalu os ydych yn bwriadu apelio. Ni fydd y gosb yn cynyddu tra bod eich apêl yn cael ei hadolygu.

Ffyrdd eraill o dalu:

  • Ffôn: Taliadau cerdyn credyd neu ddebyd yn unig.
    ​Llinell dalu awtomatig – 029 2044 5900​ (7 niwrnod yr wythnos). 
  • Drwy’r post i’r: Gwasanaethau Parcio, Blwch SP 47, Caerdydd, CF11 1QB. 


Dylid gwneud sieciau/archebion post yn daladwy i “Gyngor Caerdydd” a nodi'r rhif HTC perthnasol ar y cefn. Ni dderbynnir sieciau wedi’u hôl-ddyddio. 


Mae’n bosibl na chaiff eich post ei ddosbarthu os na fyddwch yn talu’r taliadau post cywir, ac felly mae’n bosibl na fydd eich taliad neu ohebiaeth yn cyrraedd y Cyngor o fewn y cyfnod gofynnol. Rhowch 2 ddiwrnod gwaith i bost dosbarth cyntaf a 5 diwrnod gwaith i bost ail ddosbarth. 


Ni chewch dalu ag arian parod. Nid yw Cyngor Dinas Caerdydd yn atebol o gwbl os aiff ar goll.

Rwyf wedi derbyn HTC ac am apelio ond nid wyf am i’r gosb gynyddu, a ddylwn i dalu ac wedyn apelio? ​

 
Na ddylech. Ystyrir bod talu yn gyfaddefiad o atebolrwydd. 

Yr eiliad y byddwn yn derbyn eich apêl, caiff yr achos ei oedi hyd nes ceir penderfyniad. Ni fydd y gosb yn cynyddu wrth i’ch her gael ei hystyried. 
Gellir defnyddio gwargedion arian yn unig at y dibenion a nodir yn Rheoliadau Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Traffig Ffyrdd (Darpariaethau Cyffredinol) (Cymru) 2013.

Mae'r rheoliadau hyn yn caniatáu i unrhyw incwm a godir gael ei ddefnyddio ar gyfer priffyrdd neu welliannau ffyrdd, gwella'r amgylchedd, prosiectau priffyrdd neu ddarparu gwasanaethau cludiant cyhoeddus. ​


© 2022 Cyngor Caerdydd