Mae gwasanaethau bysus yn arbennig o agored i effeithiau tagfeydd traffig ac mae unrhyw oedi yn cynyddu costau gweithredu ac yn arwain at brisiau uwch. Mae lonydd bysus a gatiau bysus yn cyflymu amseroedd teithio, yn gwella dibynadwyedd ac yn annog defnydd trafnidiaeth gynaliadwy.
Lonydd Bysus
Mae Rheol 141 Rheolau’r Ffordd Fawr yn datgan: ‘Lonydd Bysus. Dangosir y rhain gan farciau ffordd ac arwyddion sy’n dangos pa gerbydau (os unrhyw rai) y caniateir iddynt ddefnyddio’r lôn fysus.Heblaw os y dangosir fel arall, ni ddylech yrru mewn lôn fysus yn ystod ei chyfnod gweithredu.’Yng Nghaerdydd, mae pob lôn fysus yn gweithredu 24 awr y dydd, bob dydd.
Y cerbydau gaiff ddefnyddio lonydd bysus yng Nghaerdydd:
- Bysus
- Cerbydau Hacni Trwyddedig
- Cerbydau trwyddedig i’w llogi’n breifat
- Beiciau Modur (heb gerbydau ochr)
- Beiciau â Phedalau
- Cerbydau gwasanaethau brys
Gatiau Bysus
Mae gât bysus yn ddarn o stryd sydd i bob pwrpas yn creu llwybr byr i fysus gan leihau amser teithio i deithwyr trwy gael gwared â thraffig sy’n teithio trwodd Ar rai adegau caniateir i gerbydau eraill ddefnyddio gât bysus a chaiff y rhain eu nodi ar yr arwyddion rheoliadol bob amser. Ni ddylech yrru mewn gât bws tra bydd honno ar waith oni bai bod gennych awdurdod i wneud hynny.
Awgrymiadau gorau er mwyn osgoi Hysbysiad Tâl Cosb (HTC)
Byddwn yn dosbarthu Hysbysiadau Tâl Cosb (HTCau) am fethu cydymffurfio â chyfyngiadau lonydd bysus a gatiau bysus.
- Sicrhewch eich bod yn gyfarwydd â’r holl arwyddion sy’n perthyn i lonydd bysus a gatiau bysus megis yr enghreifftiau isod:
(Lonydd Bysus)

(Gatiau Bysus)

- Yn ogystal mae llinell wen ddi-dor o ar ymylon lonydd bysus ac ni ddylech ei chroesi heblaw os caniateir i chi wneud hynny
- Byddwch yn amyneddgar. Os bydd traffig yn brysur yn y lonydd sydd heb gyfyngiadau, nid yw hyn yn golygu y gallwch ddefnyddio lonydd bysus neu gatiau bysus yn anghyfreithlon.
- Mae llawr o bobl yn credu bod pellter o 20 metr lle gall cerbyd anawdurdodedig deithio o fewn lôn fysus ond nid oes gan y ‘rheol 20 metr’ sail gyfreithiol.