Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Beth sy'n digwydd os 'dw i'n derbyn HTC?

Rydym yn defnyddio camerâu di-wifr a symudol i annog cydymffurfio â rheoliadau traffig sy'n symud ac i atal gyrwyr rhag gyrru'n beryglus ar ffyrdd Caerdydd, i wella diogelwch, i leihau tagfeydd ac i gadw Caerdydd i symud.

  

Bydd perchennog trwyddedig unrhyw gerbyd a welir yn torri rheoliadau traffig a lonydd bysus Caerdydd yn derbyn Hysbysiad Tâl Cosb drwy’r post o fewn 28 diwrnod. 


Bydd yr HTC yn cynnwys lluniau llonydd a dolen i wefan lle gallwch weld cofnod ar ffilm o’r drosedd honedig.  


Y ddirwy ar gyfer pob trosedd traffig sy’n symud a throsedd lonydd bysus yng Nghaerdydd yw £70.00. Os byddwch yn talu o fewn 21 diwrnod, caiff y swm ei ostwng i £35.00. 


Os derbyniwch HTC yna mae’n rhaid i chi benderfynu a ydych am dalu’r gosb ynteu apelio​. Ni allwch wneud y ddau beth, ond peidiwch â phoeni, ni fydd y gosb yn cynyddu tra bo’ch achos yn cael ei ystyried. 


Os anwybyddir yr HTC yna bydd y gosb yn cynyddu ac efallai y bydd yn rhaid i chi dalu swm sylweddol o arian.


Yn wahanol i ddirwy goryrru, y person neu'r cwmni a enwir ar yr HTC sy'n llwyr gyfrifol amdano.

Mae hyn oherwydd bod y gyfraith yn gwneud y perchennog yn atebol am y tâl oni bai bod y cerbyd wedi'i hurio.


Am y rheswm hwn, ni ddylech apelio ar y sail nad oeddech yn gyrru na rhoi enw'r gyrrwr i'r Cyngor gan na fydd hyn yn newid unrhyw beth, a byddwch yn dal i fod yn atebol.

 Os byddwch yn anwybyddu'r HTC yna bydd y Cyngor yn anfon Tystysgrif Talu i chi sy'n rhoi 14 diwrnod i chi dalu cosb uwch o £105.

Gall methu â thalu'r balans dyledus yn llawn arwain at y Cyngor yn gwneud cais i'r Ganolfan Gorfodaeth Traffig yn Llys Sirol Northampton am warant i adennill y swm sy'n ddyledus.


Gallai fod yn rhaid i chi dalu costau asiantau gorfodi a ffioedd llys ychwanegol.
Os gwnewch chi ddim byd mae’n bosibl y caiff eich eiddo ei gymryd a’i werthu.

Os cyhoeddwyd gwarant er mwyn adennill yr hyn sy’n ddyledus gennych chi ond eich bod dal heb dalu, yna mae sawl opsiwn arall ar gael i'r Cyngor.

Mae’n bosibl y gallwn atodi’r ddyled at eich enillion, sy’n golygu y bydd yn rhaid i’ch cyflogwr dynnu'r ddyled o'ch cyflog, neu wneud cais am Orchymyn Dyled Trydydd Parti, sy'n golygu y gallai eich cyfrif banc gael ei rewi nes y caiff y ddyled ei thalu.


Gall peidio â thalu HTC arwain at anawsterau ariannol difrifol.
  
​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd