Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Cyfyngiadau Pwysau

​​Mae'r rhan fwyaf o ffyrdd Caerdydd ar gael i'r holl draffig. Weithiau mae angen i ni roi cyfyngiadau pwysau ar waith i reoli symudiad cerbydau trwm. Gall y cyfyngiadau hyn fod am resymau strwythurol neu amgylcheddol.   

Cyfyngiadau pwysau strwythurol 

Trwsiwyd pont Heol Caerffili (A469) a gall cerbydau trwm dros 18 tunnell ei defnyddio eto. Os ydych yn gyrru cerby trwm, defnyddiwch y llwybr hwn i osgoi ardaloedd preswyl cyfagos.

Defnyddir cyfyngiadau pwysau strwythurol lle nad yw ffyrdd neu bontydd yn gallu cario pwysau cerbydau trwm.  
 
Mae'r cyfyngiadau yn berthnasol i bob cerbyd.  
 
Mae gennym derfyn pwysau strwythurol yn y lleoliadau canlynol yng Nghaerdydd: 

  • Pont dros y rheilffordd Highfield Road, Y Mynydd Bychan (3 tunnell)   
  • Pont Heol Lecwydd dros afon Elái, Lecwydd (7.5 tunnell) 
  • Pont dros y rheilffordd Heol yr Orsaf, Llandaf (7.5 tunnell)  
  • Pont dros gwlfer Heol Crofft-y-gennau , Sain Ffagan (18 tunnell) 
  • Pont dros y rheilffordd Heath Halt Road, Y Mynydd Bychan (18 tunnell) 
  • Pont dros gwlfer Heol yr Orsaf, Creigiau (18 tunnell)   
  • Heol Tyn-y-coed, Pentyrch (18 tunnell) 
  • Pont dros y rheilffordd Heol y Coleg, Plasnewydd (26 tunnell) 
 
Nid oes gan gyfyngiadau pwysau strwythurol eithriad ar gyfer mynediad. 

 

Cyfyngiadau pwysau amgylcheddol 

 
Defnyddir cyfyngiadau pwysau amgylcheddol ar ffyrdd lle nad oes pryderon strwythurol ond maent yn dal yn anaddas i'w defnyddio gan Gerbydau Nwyddau Trwm (HGVs).  
 
Maen nhw'n atal HGVs rhag defnyddio mân ffyrdd fel ffyrdd cyflym amhriodol rhwng y prif lwybrau. 
 
Gallwn gyflwyno'r cyfyngiad hwn i: 

  • atal difrod i isadeiledd ac adeiladau'r briffordd 
  • amddiffyn cymeriad ac amgylchedd ardaloedd gwledig, pentrefi, ac ystadau preswyl 
  • rheoli tagfeydd ar ein ffyrdd 
  • lleihau risgiau i ddefnyddwyr ffyrdd bregus, gan gynnwys cerddwyr a beicwyr 
 
Fel arfer, bydd eithriad ar gyfer:  

  • mynediad  
  • llwytho a dadlwytho, neu  
  • ddeiliaid trwydded  
 
Gellir defnyddio cyfyngiadau amgylcheddol ar lwybr neu barth unigol. 
 
  

Trwyddedau terfyn pwysau 

 
Mewn rhai lleoliadau bydd angen trwydded arnoch i yrru HGV mewn parth terfyn pwysau.  
 
 

Mae pob trwydded am ddim ac yn ddigidol. Ni fydd angen i chi arddangos unrhyw beth yn eich cerbyd.

​​

Ble bydd angen trwydded arnoch:

  
  • Heol Isaf/Heol Tŷ Nant, Radur (7.5 tunnell) 


Dim ond os yw eich cerbyd yn fwy na'r terfyn pwysau y bydd angen i chi wneud cais am drwydded.  

Mae'r trwyddedau'n cael eu rhoi yn flynyddol neu dros dro.  
 

Ni roddir trwyddedau ar gyfer danfoniadau i Safle Datblygu Plasdŵr.

 

Trwyddedau blynyddol (trwyddedau danfon)  

 
Gallwch wneud cais am y trwyddedau hyn os oes angen i chi ddanfon i eiddo mewn parth terfyn pwysau yn rheolaidd.  
 
Bydd angen creu cyfrif MiPermit a lanlwytho: 

  • prawf bod angen mynediad rheolaidd arnoch, fel copi o gontract danfon neu amserlen  
  • llythyr eglurhaol ar bapur pennawd, wedi'i lofnodi gan reolwr neu gyfarwyddwr cwmni, sy’n manylu pa leoliad y mae angen i chi gael mynediad ato a pham.  
 
Caniatewch 7 diwrnod gwaith i ystyried ceisiadau.  

Os yw eich cais yn llwyddiannus, gallwch wedyn gofrestru eich cerbydau am drwyddedau.  
 

Trwyddedau d​ros dro  

 
Mae'r trwyddedau hyn yn para am hyd at 5 diwrnod.  
 
Bydd angeni chi lanlwytho prawf bod angen i chi gael mynediad, megis copi o anfoneb neu amserlen ddanfon.  
 
Gallwch gael eich trwydded cyn i chi deithio a rhaid i chi gael eich trwydded erbyn hanner nos ar yr un diwrnod o yrru i'r parth terfyn pwysau. 
 

Gorfodi 

 
Rydym yn defnyddio camerâu teledu cylch cyfyng i gyhoeddi Hysbysiadau Tâl Cosb​ (HTCau) i yrwyr sy'n anwybyddu terfyn pwysau amgylcheddol.  
 
Y ddirwy yw £70, a ostyngir i £35 os byddwch yn talu o fewn 21 diwrnod. Mae'r ddirwy’n cynyddu os yw'n cael ei hanwybyddu. 
 
Mae gennych hawl i apelio os ydych yn anghytuno â dirwy. 
 
Mae terfyn pwysau strwythurol yn cael eu gorfodi gan yr heddlu.  



© 2022 Cyngor Caerdydd