Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Strategaeth Rhianta Corfforaethol

​Rydym yn rhoi mynediad cyhoeddus i’r we ar gyfrifiaduron mewn Llyfrgelloedd a’i Hybiau​, a Wi-Fi cyhoeddus am ddim yn ein hadeiladau cyhoeddus. Y nod yw bodloni anghenion addysgol, hamdden a diwylliannol y gymuned.

Mae defnyddio Cyfrifiaduron Cyhoeddus am ddim i aelodau’r llyfrgell, ac i westeion y bydd angen iddynt roi manylion i gael manylion mewngofnodi er mwyn cael mynediad.  Mae angen ffurflen ganiatâd wedi’i llofnodi gan riant neu warcheidwad ar blant dan 16 oed, a rhaid i blant dan 8 oed fod yng nghwmni rhiant neu warcheidwad. 

Mae llawer o'n cyfrifiaduron ar gael i'w harchebu ymlaen llaw.  Mae hefyd cyfrifiaduron wedi’u haddasu i wella hygyrchedd – darllenwch fanylion pob cangen. 

Mae'r mynediad a ddarperir yn cynnwys:
  • mynediad i’r rhyngrwyd,  
  • e-bost ar y we,  
  • rhaglenni Microsoft Office safonol, a 
  • sawl adnodd tanysgrifio ar gyfer cyfeirio ac ymchwil.
 
Os oes argraffydd ar gael, gallwch ei ddefnyddio am gost. 

Mae hefyd Delerau ac Amodau defnydd sy’n berthnasol pob tro mae defnyddiwr yn mewngofnodi i gyfrifiadur cyhoeddus.

Cynnwys y We wedi'i Flocio 

Hidlir mynediad i’r rhyngrwyd mewn llyfrgelloedd yn awtomatig, ond nid allwn warantu y caiff pob safle annymunol neu amhriodol ei flocio, felly ni all Llyfrgelloedd Caerdydd a Chyngor Caerdydd fod yn gyfrifol am unrhyw ofid a achosir trwy fynd i safleoedd o’r fath.

Yn yr un modd, gallai nifer o safleoedd derbyniol gael eu blocio’n anghywir, ond os ydych yn dod o hyd i safle yr ydych yn credu y dylai gael ei flocio, rhowch wybod i aelod o staff. Gallai’r hyn sy’n dderbyniol neu’n annerbyniol fod yn wahanol i bobl wahanol. Bydd tîm Rheoli’r Llyfrgell yn penderfynu beth i’w wneud o ran eich cais.
Os canfyddir eich bod yn torri’r telerau defnydd derbyniol, neu unrhyw Delerau ac Amodau y cytunwyd arnynt ar ddechrau eich sesiwn, bydd staff y llyfrgell yn dod â’ch sesiwn i ben. Gallwn ddileu mynediad i’r gwasanaeth hwn ar unrhyw bryd. 

Os hoffech chi roi gwybod bod safle wedi’i flocio’n anghywir neu heb ei flocio, cysylltwch â ni. Cofiwch gopïo cyfeiriad llawn y wefan (URL) o’r bar cyfeiriad ar ben y porwr a’i ludo i mewn i gorff y testun, ynghyd ag eglurhad byr o’r hyn yr ydych yn credu sy’n anghywir. Rhowch gyfeiriad e-bost os hoffech chi gael adborth ar ôl i ni ystyried eich cais.


​​




© 2022 Cyngor Caerdydd