Porwch, benthyciwch a chadwch eich eLyfrau ar:
Mae modd lawrlwytho eLyfrau i’ch cyfrifiadur neu
liniadur a’u hagor ar eich ffôn clyfar, ar lechen neu ar rai teclynnau
eDdarllen. Mae modd i chi fenthyg hyd at chwe eLyfr ar yr un pryd am hyd at dair
wythnos. Ar ôl y
cyfnod hwn byddan nhw’n diflannu o’ch dyfais.
Cyn i chi fenthyg
Y tro cyntaf y byddwch chi’n defnyddio’r gwasanaeth eLyfrau, bydd yn rhaid i chi greu cyfrif. I wneud hynny, bydd angen eich rhif cerdyn llyfrgell a’ch PIN. Os ydych chi wedi anghofio’ch PIN, cysylltwch â ni.
Y tro cyntaf y byddwch chi’n defnyddio’r gwasanaeth, gofynnir i chi lawrlwytho a gosod rhaglen Adobe® Digital Editions os nad yw’r meddalwedd hwn eisoes ar eich cyfrifiadur neu Mac. Mae meddalwedd Adobe® Digital Editions yn cynnig ffordd hawdd a difyr o weld a rheoli eich eLyfrau gan gynnwys eu trosglwyddo i ddyfeisiau symudol.
Lawrlwythwch eLyfrau Sain o :
Mae modd lawrlwytho eLyfrau Sain o’ch cyfrifiadur neu
Mac a’u rhoi ar eich dyfais MP3, eich iPod, eich ffôn clyfar neu ddyfais arall.
Mae modd i chi fenthyg hyd at ddeg eLyfr
Sain ar yr un pryd am hyd at dair wythnos. Gallwch chi hefyd adnewyddu eich eitemau os byddwch chi am eu cadw’n
hirach.
Cymorth i lawrlwytho a defnyddio eLyfrau Sain RB DigitalDolen allanol yn agor mewn ffenest newydd External link opens in a new window
Cyn i chi fenthyg
Y tro cyntaf y byddwch chi’n defnyddio’r gwasanaeth, bydd yn gofyn i chi lawrlwytho a gosod meddalwedd Media Manager RB Digital. Meddalwedd Media Manager RB Digital yw’r ffordd hawsaf i chi lawrlwytho, trosglwyddo a rheoli’ch eLyfrau Sain.
Cyn i chi fenthyg
Bydd angen i chi ddefnyddio eich rhif aelod llyfrgell i greu cyfrif.
Noder y bydd angen i chi greu dau gyfrif pan fyddwch chi’n cofrestru.
- Bydd y cyfrif cyntaf yn eich galluogi i bori casgliad y llyfrgell o gylchgronau am ddim.
- Mae angen yr ail gyfrif ar wefan RB Digital i ddarllen a lawrlwytho’r cylchgronau am ddim.
Er hwylustod i chi, gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio’r un cyfeiriad e-bost a chyfrinair i’r ddau gyfrif.
Mae modd i chi agor eich cyfrif RB Digital unrhyw le lle y mae modd cysylltu â’r rhyngrwyd gan gynnwys eich llyfrgell leol.
Mae RB Digital yn
cynnig gwasanaeth tanysgrifio ledled Cymru i aelodau llyfrgell am ddim i weld mwy na 16,000 o gomicsDolen allanol yn agor mewn ffenest newydd . Mae modd i chi weld y Comics hyn ar eich gliniadur,
cyfrifiadur/Mac, teclyn eDdarllen, llechen neu ffôn clyfar.
Cymorth i lawylwytho a defnyddio Comic PlusDolen allanol yn agor mewn ffenest newydd
Cyn i chi fenthyg
Bydd angen i chi ddefnyddio eich rhif aelod llyfrgell i greu cyfrif.
Noder y bydd angen i chi greu dau gyfrif pan fyddwch chi’n cofrestru.
- Bydd y cyfrif cyntaf yn eich galluogi i bori casgliad y llyfrgell o gylchgronau am ddim.
- Mae angen yr ail gyfrif ar wefan RB Digital i ddarllen a lawrlwytho’r comics am ddim.
Er hwylustod i chi, gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio’r un cyfeiriad e-bost a chyfrinair i’r ddau gyfrif. Mae modd i chi agor eich cyfrif RB Digital unrhyw le lle y mae modd cysylltu â’r rhyngrwyd yn eich llyfrgell leol.
Os ydych chi’n
agor y rhain mewn un o Lyfrgelloedd Cyhoeddus Caerdydd, bydd modd i chi agor
pob un o’r gwasanaethau hyn yn syth.
Os ydych chi’n eu
hagor ar eich cyfrifiadur eich hun, byddan nhw’n gofyn am eich Rhif Cerdyn Llyfrgell
pan fyddwch chi’n clicio ar ddolen eGyfeirnod.
Dim ond ar
gyfrifiadur llyfrgell y gallwch chi agor yr adnoddau hyn:
- Ancestry.com - Ar Gyfer Llyfrgelloedd
- European Sources Online
- Find My Past