Gallwch ymuno â’n llyfrgelloedd yn rhad ac am ddim. Gallwch fenthyg llyfrau a defnyddio’r cyfrifiaduron am ddim, ond rydyn ni’n codi tâl am wasanaethau eraill fel menthyg CDs a DVDs. Gallwch fenthyg hyd at 15 o eitemau ar y tro o unrhyw leoliad.
I ymuno, ewch i un o’n llyfrgelloedd a dangos prawf adnabod. Er enghraifft:
- Trwydded yrru
- Cerdyn debyd neu gredyd
- Biliau cyfleustodau
- Cerdyn neu lyfr budd-daliadau
- Cyfriflen banc neu gerdyn credyd
- Pasbort
- Cerdyn UCM neu gerdyn myfyriwr, gan gynnwys Cerdyn Adnabod Myfyriwr Rhyngwladol (ISIC) neu Gerdyn Teithio Ieuenctid Rhyngwladol (IYTC)
Os ydych eisoes yn aelod o wasanaeth llyfrgell arall yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon, gallwch ymuno â Llyfrgelloedd Caerdydd drwy gyflwyno eich cerdyn llyfrgell dilys presennol.
Dan 16
Babanod
Adnewyddu
Dychwelyd eitemau’n hwyr
Help gyda chyfrifiaduron
Dan 16
Os ydych o dan 16 oed bydd angen i’ch rhiant/gofalwr ddangos un prawf adnabod a llofnodi’r cais.
Uchod
Babanod
Gall babanod ymuno cyn gynted ag y cânt eu geni! Darganfyddwch fwy am gynllun Dechrau Da a Baby Bookcrawl mewn unrhyw lyfrgell. Mae babanod yn dwlu ar lyfrau, ac mae mwy a mwy yn cymryd rhan yn Amser Odli. Gofynnwch i’ch llyfrgell leol am ddyddiad y sesiwn nesaf.
Uchod
Adnewyddu
Os nad ydych wedi gorffen gyda’r eitem, gallech ei hadnewyddu os nad oes unrhyw un arall wedi’i chadw. Gallwch adnewyddu’r llyfr:
- ar-lein
- drwy ymweld â’r llyfrgell, neu
- drwy ffonio’r llyfrgell
Peidiwch ag anghofio y bydd angen eich cerdyn llyfrgell a’ch PIN arnoch os ydych am adnewyddu ar-lein. Os ydych wedi anghofio eich PIN, cysylltwch â ni
Uchod
Dychwelyd eitemau’n hwyr
Os byddwch yn anghofio dod â’ch eitem yn ôl ar amser, bydd yn rhaid i chi dalu dirwy fechan. Edrychwch ar y dudalen dirwyon a chostau llyfrgelloedd i gael y wybodaeth ddiweddaraf. Does dim dirwyon ar lyfrau i blant, ond ceisiwch eu dychwelyd mor agos i'r dyddiad dychwelyd â phosibl.
Uchod
Help gyda chyfrifiaduron
Os nad ydych yn hyderus gyda chyfrifiaduron, gofynnwch i aelod o staff eich helpu i ddechrau arni. Rydyn ni hefyd yn cynnig amrywiaeth eang o ddosbarthiadau dydd a nos i’ch helpu i wella eich sgiliau cyfrifiadurol. Holwch eich llyfrgell leol am fanylion.
Uchod