Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Gwasanaethau llyfrgell

​​​​​​​​​​​​​​Fel aelod o'r llyfrgell gallwch gael mynediad at ein hadnoddau electronig yn ogystal ag amrywiaeth o wasanaethau llyfrgell eraill.

Dysgwch sut i ymuno â llyfrgell​.

Mae llyfrgelloedd Caerdydd yn cynnig nifer o wasanaethau gan gynnwys: ​

Mae WiFi am ddim ar gael ym mhob un o'n llyfrgelloedd, heblaw Tongwynlais. 

Gallwch ddefnyddio cyfrifiadur cyhoeddus am ddim yn y lleoliadau hyn.

Mae ein cyfrifiaduron yn cynnig:

  • mynediad i'r rhyngrwyd, a
  • rhaglenni Microsoft Office.

Gallwch archebu cyfrifiadur hyd at 8 diwrnod ymlaen llaw. Bydd angen i chi fewngofnodi gyda'ch rhif cerdyn llyfrgell a'ch PIN.

Gallwch hefyd ddefnyddio ein hargraffwyr cyhoeddus. Gweler ein dirwyon a thaliadau am gostau fesul taflen.

Mae argraffu WiFi ar gael hefyd. Gan ddefnyddio'r swyddogaeth 'argraffu dogfen' ar ein system archebu, gallwch anfon dogfen at argraffydd llyfrgell o unrhyw le.​

Os ydych chi'n aelod o lyfrgelloedd Caerdydd gallwch fenthyg eLyfrau ac eLyfrau Llafar o gysur eich cartref eich hun gan ddefnyddio ein gwasanaeth llyfrau 24 awr

Mae deunyddiau llafar ar gael i'w benthyg o'n holl lyfrgelloedd ar CD.

Os nad oes gennym y teitl rydych ei eisiau yn eich llyfrgell leol, efallai y gallwch ei roi ar gadw mewn llyfrgell arall a gofyn iddo gael ei anfon i'ch cangen leol. 

Gallwch archebu deunydd llafar yn rhad ac am ddim. 

I gael gwybod pa deitlau sydd gennym a sut i'w cadw, ewch i'n catalog ar-lein Dolen allanol yn agor mewn ffenestr newydd neu ewch i'ch cangen leol.

Gweler ein tudalen dirwyon a thaliadau llyfrgell am fanylion.  Os oes gennych anabledd gweledol gallwch fenthyg deunyddiau llafar yn rhad ac am ddim.

Gallwch hefyd gael mynediad at:

  • eLyfrau,
  • eLyfrau Llafar, 
  • papurau newydd.
  • a chylchgronau.

Gallwch fenthyg eLyfrau ac eLyfrau Llafar, papurau newydd a chylchgronau gan:

 

Gallwch ddefnyddio'r gwasanaethau hyn ar y rhan fwyaf o ddyfeisiau, ond nid yw Amazon Kindle yn gweithio.

​I bori, benthyg a chadw llyfrau bydd angen rhif eich cerdyn llyfrgell a'ch PIN arnoch.

 Os ydych chi wedi anghofio'ch PIN, cysylltwch â ni.

Dylech gynnwys rhif eich cerdyn llyfrgell os ydych chi'n ei wybod. 

 

BorrowBox​​

Mae BorrowBox yn ei gwneud hi'n hawdd pori, benthyg a darllen eLyfrau ac eLyfrau Llafar y llyfrgell.

Gallwch gadw neu lawrlwytho hyd at 10 eLyfr ac eLyfr Llafar am ddim drwy BorrowBox. Gallwch fenthyg llyfrau am hyd at 14​ diwrnod.

Os ydych chi'n defnyddio ffôn clyfar neu lechen, gallwch lawrlwytho'r ap BorrowBox o Siop Apiau Apple neu Siop Google Play .

Os ydych yn defnyddio cyfrifiadur neu liniadur gallwch fynd i wefan BorrowBox i lawrlwytho eLyfrau ac eLyfrau Llafar i'ch dyfais. 

I ddarllen eLyfrau bydd angen Adobe Digital Editions

Gellir mewngludo eLyfrau Llafar i iTunes neu Windows Media Player a'u trosglwyddo i chwaraewr MP3 neu eDdarllenydd.​

 

Libby, gan OverDrive

Mae Libby, gan OverDrive, yn ap am ddim sy'n eich galluogi i fenthyg eLyfrau, eLyfrau Llafar, comics a chylchgronau o'r llyfrgell.

Gallwch gadw neu lawrlwytho hyd at 16 o eLyfrau, eLyfrau Llafar a chylchgronau am ddim drwy Libby. Gallwch fenthyg llyfrau am hyd at 21 diwrnod.

Os ydych chi'n defnyddio ffôn clyfar neu lechen, gallwch lawrlwytho'r ap Libby, gan OverDrive o Siop Apiau Apple neu Siop Google Play .

Os ydych chi'n defnyddio cyfrifiadur neu liniadur gallwch fynd i wefan OverDrive

Gallwch ddarllen cylchgronau ac eLyfrau yn eich porwr. 

Gallwch hefyd lawrlwytho eLyfrau ar ffurf EPUB gan ddefnyddio Adobe Digital Editions

Gallwch wrando ar eLyfrau Llafar yn eich porwr, neu gallwch eu lawrlwytho fel ffeil MP3.

 

PressReader​​

Gallwch gael gafael ar bapurau newydd a chylchgronau digidol drwy PressReader.

Os ydych chi'n defnyddio ffôn clyfar neu lechen, gallwch lawrlwytho'r ap Press Reader o Siop Apiau Apple neu Siop Google Play .

Os ydych chi'n defnyddio cyfrifiadur neu liniadur gallwch fynd i wefan PressReader .

Gallwch hefyd gael gafael ar bapurau newydd PressReader drwy ddefnyddio'r tab 'extras' ar yr ap Libby, gan OverDrive. 


Nid yw cylchgronau PressReader ar gael drwy'r ap Libby.

 eGyfeirio

Gallwch fanteisio ar amrywiaeth o adnoddau cyfeirio eraill ar-lein drwy gatalog y llyfrgell​​.​​

Mae'r deunyddiau eGyfeirio sydd ar gael yn cynnwys:

  • IELTS
  • Papurau newydd hanesyddol trwy Gale Primary Resources a'r British Newspaper Archive
  • Archif Papurau Newydd Digidol y Times
  • Bywyd yn y DU: Ffordd Prydain o Fyw​


Os ydych chi'n defnyddio'r rhain o gartref neu drwy ddefnyddio eich cyfrifiadur eich hun, efallai y bydd angen i chi fewngofnodi gan ddefnyddio rhif eich Cerdyn Llyfrgell a'ch PIN. 

​Dim ond o un o gyfrifiaduron yr Hybiau a'r Llyfrgelloedd y gellir defnyddio'r adnoddau canlynol:  

  • Find My Past
  • Ancestry.com - Fersiwn Llyfrgell​ 

Mae gan rai o'n llyfrgelloedd ystafelloedd cymunedol neu ystafelloedd cyfarfod i'w llogi. Gofynnwch i'ch llyfrgell neu Hyb lleol

Mae'r Llyfrgell Ganolog hefyd yn cynnig ardal TGCh y gellir ei llogi am ffi.  

Rydym wrth ein bodd yn cael ymweliadau dosbarth ac yn hapus i siarad ag athrawon neu staff eraill yr ysgol i wneud trefniadau.  Cysylltwch â'ch hyb neu lyfrgell leol yn uniongyrchol.

Benthyg Llyfrau


Os ydych chi'n athro, gallwn sefydlu cyfrif llyfrgell arbennig i chi fenthyg nifer fwy o lyfrau ar gyfer eich dosbarth.  

Mae sawl teitl o lyfrau penodol ar gyfer darllenwyr iau hefyd ar gael fel rhan o'n casgliadau grwpiau darllen.  I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â ni.

Os ydych chi'n aelod o grŵp darllen, yn chwilio am un yn eich ardal leol neu'n ystyried sefydlu un hyd yn oed, dyma beth allwn ni 'neud i chi:

  • eich helpu i ddod o hyd i grŵp darllen sy'n cwrdd ar adeg ac mewn lle sy'n gyfleus i chi
  • hysbysebu eich grŵp i aelodau newydd
  • argymell llyfrau gwych i chi eu darllen
  • rhoi hyd at 15 copi o'r un llyfr i chi, y gallwch eu cadw am hyd at 6 wythnos
  • cynnig llwyth o weithgareddau hwyl drwy gydol y flwyddyn

 

Am fwy o fanylion gofynnwch yn eich hyb neu lyfrgell leol. 

Nid yw ein gwasanaeth llyfrgell deithiol ar gael ar hyn o bryd, ond mae ein gwasanaeth danfon i'r cartref yn dal i redeg.

Os na allwch gael mynediad at Wasanaethau Llyfrgell, cysylltwch â Gwasanaeth Dosbarthu Cartrefi'r Llyfrgell Allgymorth ar 02920 871 333 neu drwy anfon e-bost i llyfrgellallgymorth@caerdydd.gov.uk​



Mae'r llyfrgell deithiol yn mynd â gwasanaeth llyfrgell llawn i gymunedau Caerdydd drwy ymweld ag:

  • ardaloedd heb fynediad hawdd i lyfrgell neu hyb lleol,
  • a​rdaloedd â llawer o bobl oedrannus neu eiddil, a allai fel arall ei chael hi'n anodd cyrraedd eu cangen agosaf, a​
  • chanolfannau gofal dydd, cartrefi preswyl, cartrefi gofal, ac ysgolion.​

 



Mae gan ein llyfrgell deithiol ddetholiad eang o stoc, a bydd staff y llyfrgell yn defnyddio eu gwybodaeth i sicrhau'r darlleniadau gorau i chi. 

Gallwn archebu stoc o'n llyfrgelloedd ledled y ddinas a byddwn yn gwneud pob ymdrech i sicrhau'r eitem rydych chi ei heisiau erbyn ein hymweliad nesaf. 

Gall trigolion wneud cais am lyfrau drwy unrhyw hyb neu lyfrgell. 

Gwasanaeth dosbarthu i’r cartref 

Rydym yn rhedeg gwasanaeth sy'n dod â'r llyfrgell i'ch stepen drws os ydych chi wedi’ch analluog gan: 
  
  • salwch,
  • llesgedd,
  • anabledd,
  • gwella ar ôl llawdriniaeth, neu 
  • ynysu hirdymor,


ac na allwch deithio i'ch llyfrgell leol yn annibynnol mwyach na chario llyfrau adref.

Mae'r gwasanaeth yn galw bob tair wythnos i ddosbarthu a chasglu llyfrau cyffredin/print bras a/neu lyfrau llafar. 

Ar ôl cyfweliad cychwynnol i nodi'r anghenion a'ch chwaeth ddarllen, gallwch naill ai rhoi rhestr o lyfrau yr hoffech eu darllen i'r gyrrwr, neu gael llyfrau wedi eu dewis ar eich cyfer gan ein llyfrgellydd profiadol a gwybodus.  

Os oes gennych fynediad i'r rhyngrwyd, gallwch archebu eich hoff lyfrau a'u cael wedi eu hanfon atoch cyn gynted ag y byddan nhw ar gael.  

Mae'r gwasanaeth hwn yn rhad ac am ddim ac ar waith ledled Caerdydd. Fodd bynnag, dim ond hyn a hyn o adnoddau sydd ar gael ac mae yna restr aros weithiau. 

Gallwch gysylltu â’n gwasanaeth llyfrgell deithiol​​ a dosbarthu i’r cartref ar 029 2087 1333 neu drwy e-bostio LlyfrgellAllgymorth@caerdydd.gov.uk​. ​

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru  yn cynnig amrywiaeth eang o adnoddau electronig, o gylchgronau ysgolheigaidd i wyddoniaduron a phapurau newydd. 

Gallwch gofrestru i:

  • Gael tocyn darllenwyr cyn ymweld â Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a
  • Chael mynediad o bell i adnoddau electronig y Llyfrgell cyn belled â'ch bod yn byw yng Nghymru.


Gan fod y gwasanaeth hwn yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, ni allwch gofrestru heb gyfeiriad cartref yng Nghymru. 



Cysylltu â ni​​​​​

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am wasanaethau llyfrgell, neu os ydych wedi anghofio eich PIN, gallwch gysylltu â ni drwy'r ffurflen hon. Dylech gynnwys rhif eich cerdyn llyfrgell os ydych chi'n ei wybod.

Cysylltu â ni





© 2022 Cyngor Caerdydd