Ers i Ddeddf Mabwysiadau a Phlant 2002 ddod i rym, mae’n rhaid i Asiantaethau Mabwysiadu gwblhau asesiadau ôl-fabwysiadu ar yr adeg y digwydd y mabwysiadu a phan fo unrhyw barti sydd ynghlwm wrth fabwysiadu yn gofyn am asesiad, tan i’r plentyn sydd wedi ei fabwysiadu gyrraedd 18 oed.
Nodau’r Gwasanaeth
- Rhoi gwasanaethau cymorth perthnasol i chi ar adeg y mabwysiadu a nes bod eich plentyn yn 18 oed, fel y bo’n briodol.
- Mae Cyngor Caerdydd hefyd yn cynnig gwasanaethau cymorth i deuluoedd yr effeithir arnynt gan Warchodaeth Arbennig, os cafodd hyn ei drefnu gyda chefnogaeth y cyngor.
Pa Wasanaethau Cymorth a ddarperir gan Gyngor Caerdydd?
- Cwnsela ar gyfer rhieni neu berthnasau biolegol pan fo gan blentyn gynllun mabwysiadu.
- Asesiadau Cychwynnol a Chraidd o deuluoedd sy’n mabwysiadu, i nodi anghenion ar y pryd.
- Gall cymorth ariannol weithiau fod ar gael i deuluoedd sy’n mabwysiadu er mwyn diwallu anghenion plentyn sydd ag anghenion penodol. Gallai hyn fod yn un taliad cychwynnol neu’n swm rheolaidd.
- Hyfforddiant ar gyfer rhieni sy’n mabwysiadu i’w cynorthwyo i ddeall anghenion plant sydd wedi eu mabwysiadu. Mae hyfforddiant hefyd yn benodol a gall ymdrin â materion sy’n benodol i fabwysiadwyr unigol a’u plentyn. Gellir ei ddarparu yn fewnol neu drwy asiantaeth allanol.
- Cefnogaeth gan Gymheiriaid i bob rhiant sy’n mabwysiadau drwy’r grŵp cymorth sy’n cwrdd pob deufis.
- Cefnogaeth Broffesiynol yn ôl yr angen gan asiantaeth annibynnol megis After Adoption, Adoption UK neu BAAF.
- Gofal Seibiant pan yn briodol.
- Gwasanaethau blwch llythyrau i holl blant Caerdydd, teuluoedd mabwysiedig a theuluoedd biolegol i gyfnewid gwybodaeth mewn dull diogel.
- Pan gytunir ar Gyswllt fel rhan o’r cynllun Ôl-Fabwysiadu, efallai y bydd angen cydlynu. Efallai y bydd angen goruchwylio’r cyswllt hefyd.
Gall yr Asiantaeth Fabwysiadu ymgymryd â’r swyddogaeth hon.
Cysylltu â ni
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am fabwysiadu yng Nghaerdydd, neu os hoffech gael eich asesu fel mabwysiadwr, cysylltwch â ni.
029 2087 3797
Gallwn hefyd anfon un o’n Pecynnau Gwybodaeth Mabwysiadu atoch.