Drwy gydol y flwyddyn, rydym yn cynnal nifer o Ddigwyddiadau Recriwtio galw heibio lle mae aelodau o’n Tîm Mabwysiadu ar gael i ateb unrhyw gwestiynau a rhoi gwybodaeth mewn lleoliadau cymunedol ac mewn digwyddiadau cyhoeddus ledled y ddinas.
Cewch gyfle i sgwrsio gyda Gweithwyr Cymdeithasol Mabwysiadu a chwrdd â rhai o’n Mabwysiadwyr.
Digwyddiadau Recriwtio 2014 – 2015:
Newid dyddiad: Dydd Iau 4 Rhagfyr 7-9pm Neuadd y Sir, Caerdydd, CF10 4UW
(Ystafell Bwyllgor 4)
Dewch draw i ddysgu mwy am fabwysiadu, cwrdd â rhieni sy’n mabwysiadu a
chael sgwrs gyda’r tîm. Cysylltwch â’r tîm mabwysiadu i roi gwybod i ni os oes gennych ddiddordeb
mewn dod draw ar 029 2087 3797.
Cysylltu â ni
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am fabwysiadu yng Nghaerdydd, neu os hoffech gael eich asesu fel mabwysiadwr, cysylltwch â ni.
029 2087 3797
Gallwn hefyd anfon un o’n Pecynnau Gwybodaeth Mabwysiadu atoch.