Hysbysiad preifatrwydd ar gyfer plant mewn angen sy’n cael gwasanaethau gan awdurdodau lleol, gan gynnwys plant sy’n derbyn gofal, sy’n ymdrin â chyfrifoldebau Llywodraeth Cymru Mae gan Lywodraeth Cymru fynediad i ddata am blant mewn angen sy’n cael gwasanaethau gan awdurdodau lleol. Mae gennych chi, fel rhiant neu ofalwr plentyn o’r fath, neu fel plentyn sydd dros 12 oed, yr hawl i gael gwybod am y modd y bydd y data hwn yn cael ei brosesu a’i ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru. Caiff y wybodaeth honno ei chrynhoi isod. Gellir gweld gwybodaeth fwy manwl o lawer ar
Wefan Llywodraeth CymruPa ddata y mae gan Lywodraeth Cymru fynediad iddo?Yn ôl y gyfraith, rhaid i awdurdodau lleol roi i Lywodraeth Cymru fanylion am blant mewn angen sy’n cael gwasanaethau ganddynt, a bydd y manylion hynny’n cynnwys:
• gwybodaeth bersonol a gwybodaeth bersonol sensitif amdanoch chi (neu’ch plentyn), megis dyddiad geni, rhyw, grŵp ethnig, statws o ran anabledd a gwybodaeth arall am iechyd;
• manylion sylfaenol am y gwasanaeth a ddarperir i chi (neu’ch plentyn) a pham y caiff y gwasanaeth ei ddarparu;
• gwybodaeth sy’n galluogi Llywodraeth Cymru i gymharu perfformiad plant mewn angen â pherfformiad pob plentyn arall o ran addysg.
Fodd bynnag, ni fydd y data a anfonir i Lywodraeth Cymru yn cynnwys eich enw chi (nac enw eich plentyn).
Sut y bydd y data’n cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru?Bydd y data a anfonir i Lywodraeth Cymru yn cael ei ddefnyddio ganddi er mwyn:
• mesur pa mor dda y mae Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn darparu eu gwasanaethau i chi (neu’ch plentyn);
• hybu gwelliannau i’r gwasanaethau hynny;
• dyrannu arian i awdurdodau lleol ac eraill; neu
• hybu ymchwil ehangach i’r modd y caiff gwasanaethau eu darparu i chi (neu’ch plentyn) neu eraill.
Ni fydd y data a anfonir i Lywodraeth Cymru yn cael ei ddefnyddio ganddi er mwyn:
• cymryd unrhyw gamau gweithredu mewn perthynas â chi (neu’ch plentyn);
• eich adnabod chi (neu’ch plentyn) mewn unrhyw adroddiadau.
Bydd y data a anfonir i Lywodraeth Cymru yn cael ei gadw’n ddiogel ganddi, a dim ond dan reolaeth lem y bydd yn cael ei rannu ag eraill. Ni fydd byth yn cael ei rannu mewn modd a fyddai’n ei gwneud yn bosibl eich adnabod chi (neu adnabod eich plentyn).
Rhagor o wybodaeth Gellir gweld gwybodaeth fwy manwl o lawer ar Wefan Llywodraeth CymruFodd bynnag, os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach am y modd y bydd data amdanoch chi (neu am eich plentyn) yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru, cysylltwch â Thîm Casglu Data Llywodraeth Cymru yn ysgrifenedig gan ddefnyddio’r manylion cyswllt isod.
Tîm Casglu Data Llywodraeth Cymru
Ystafell 2-002, CP2, Adeiladau’r Goron
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost:
stats.pss@wales.gsi.gov.uk