Navigate Up
Sign In
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area
new cardiff > CYM > Preswylydd > Iechyd a Gofal Cymdeithasol > Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014 > Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 Cwestiynau Cyffredin

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 Cwestiynau Cyffredin

Mae'n cyfuno ac yn moderneiddio deddfwriaeth gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru. Mae'n newid y modd y caiff gwasanaethau cymdeithasol eu darparu i wella llesiant pobl Cymru. Bydd gennych fwy o gyfle i ddweud am eich gofal ac i wneud penderfyniadau mewn partneriaeth gyfartal â gweithwyr proffesiynol. Bydd modd i chi gyrchu gwybodaeth a chyngor i’ch helpu. Bydd sefydliadau megis awdurdodau lleol a'r GIG yn gweithio mewn partneriaeth i wneud systemau yn haws ac yn fwy effeithlon.
Daeth y Ddeddf i rym ar 6 Ebrill 2016.
Mae llesiant yn golygu eich bod yn hapus, yn iach ac yn gysurus gyda'ch bywyd a'r hyn rydych chi'n ei wneud. Mae'r Ddeddf yn gosod diffiniad o lesiant ar gyfer pobl sydd angen gofal a chymorth. Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu Datganiad Llesiant​​​​​​​​​​​​​​​Dolen allanol yn agor mewn ffenest newydd i edrych ar y canlyniadau llesiant y gall pobl sydd angen gofal a chymorth, a gofalwyr sydd angen cymorth, ddisgwyl eu cyflawni.
Gall eich teulu a’ch ffrindiau gymryd rhan mewn trafodaethau a’ch helpu. Os nad yw hyn yn opsiwn i chi, bydd modd i chi ddefnyddio gwasanaethau eirioli.
Mae’r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol yn ystyried effeithlonrwydd trefniadau diogelu ledled Cymru. Mae’n monitro perfformiad ar draws y wlad ac yn argymell gwelliannu i Lywodraeth Cymru. Mae deddfwriaethau i ddiogelu oedolion a phlant rhag cam-drin neu esgeuluso wedi’u cryfhau hefyd dan y Ddeddf hon.
Rhaid i’r awdurdodau lleol a’r byrddau iechyd gydweithio i asesu’r boblogaeth a chanfod pa ofal a chymorth sydd eu hangen yn eu hardal. Mae’r asesiad yn rhoi syniad o'r gwasanaethau ataliol sydd angen eu cynnig. Rhaid i awdurdodau lleol roi gwybodaeth, cyngor a gwasanaethau cymorth hefyd. Yn ogystal, rhaid i awdurdodau lleol hyrwyddo’r cyfle i bobl sy’n derbyn gofal a chymorth ddweud eu dweud o ran cynllunio a darparu gwasanaethau, ynghyd â modelau cyflawni amgen, gan gynnwys mentrau cymdeithasol, cydweithfeydd, gwasanaethau a arweinir gan y defnyddiwr a’r sector gwirfoddol.

Mae menter gymdeithasol yn fusnes sy'n ail-fuddsoddi’r elw yn ei wasanaethau neu yn y gymuned. Mae cwmni cydweithredol yn grŵp o bobl sy'n gweithredu gyda'i gilydd yn wirfoddol i ddiwallu angen economaidd neu gymdeithasol yn eu cymuned. Mae gwasanaethau sy'n cael eu cyflawni gan ddefnyddwyr yn cael eu rhedeg a'u rheoli gan bobl sy'n defnyddio gwasanaethau cymorth. Ceir gwybodaeth ar wefan Busnes Cymdeithasol Cymru​​​​​​​​​​​​​​​​​Dolen allanol yn agor mewn ffenest newydd ​​ ynghylch sut i sefydlu menter gymdeithasol. 
Bydd asesiadau'n symlach, ac ar sail eich anghenion. Byddant yn cael eu cwblhau mewn partneriaeth gyda chi a'ch teulu, a'r person proffesiynol sy'n gweithio gyda chi. Bydd sgwrs cael ei chynnal i benderfynu beth sy'n bwysig i chi a beth sydd ei angen arnoch i sicrhau eich llesiant. Bydd hyn yn ystyried eich cryfderau, a'r adnoddau a'r opsiynau sydd ar gael i chi - gan gynnwys unrhyw gymorth y gall yr awdurdod lleol ei ddarparu.
Efallai y gellir cynnig Taliadau Uniongyrchol i chi.  Os ydych yn cytuno i dderbyn taliadau uniongyrchol, byddwch yn cael arian i drefnu eich gofal a chymorth eich hun sy'n ateb eich anghenion lles, gan roi mwy o reolaeth a dewis i chi.
​​Mae awdurdodau lleol a byrddau iechyd yn benodol yn gweithio’n agos i gyflawni gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol sydd wedi’u hintegreiddio’n well. Gyda’i gilydd, maent yn asesu gofynion gofal a chymorth yn y maes i nodi a darparu’r gwasanaethau sydd eu hangen. Mae’r broses asesu a chynllunio gofal yn gofyn i sefydliadau gydweithio mewn dull integredig i leihau dyblygu.
Mae gan ofalwyr yr hawl i asesiad o’u hanghenion cymorth, a chael y lefel briodol o gymorth gan yr awdurdod lleol.

Os ydych chi a’ch teulu maeth am aros gyda’ch gilydd ar ôl i chi droi'n 18 oed, fe'ch cefnogir i wneud hynny tan i chi droi'n 21 oed. Gellir ymestyn y cyfnod hwn tan eich pen-blwydd yn 25 oed os ydych mewn addysg neu hyfforddiant.

Mae’r ffordd rydych yn talu am eich gofal os oes gennych fodd i wneud hynny yr un fath ledled Cymru – mae’r un set o asesiadau a threfniadau codi tâl ar gyfer pob oedolyn sy’n talu am ei ofal. Mae’n berthnasol ar gyfer gofal preswyl yn ogystal â gofal amhreswyl. Mae pawb sy’n talu am ofal yn cael datganiad manwl yn egluro sut gaiff ei gyfrifo a gellir ei gwestiynu lle bo angen. Yn 2011, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gap ar y swm y gall cynghorau ei godi am ofal a chymorth amhreswyl. Mae’r cap hwn o £60 yr wythnos yn dal i fod yn weithredol.
Bydd y ffordd rydych yn talu am ofal os oes gennych y modd ariannol i wneud hynny yn unffurf ar draws Cymru - bydd un set o drefniadau asesu a chodi tâl ar gyfer pob oedolyn lle bo gofyn iddynt dalu am eu gofal. Bydd hyn ar gyfer gofal preswyl a dibreswyl. Bydd pawb sy'n talu yn cael datganiad manwl yn egluro sut y cafodd y swm ei gyfrif, a bydd modd ei herio os oes angen. Yn 2011, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gap ar y swm y gall cynghorau ei godi am ofal a chymorth dibreswyl - mae'r cap hwn yn dal i fod mewn bodolaeth, ac mae'n £60 yr wythnos.
Mae awdurdodau lleol ledled Cymru yn cofnodi eu perfformiad, a gallant gymharu eu hunain ag ardaloedd eraill. Maent yn dysgu ac yn gwella drwy rannu arferion gorau. Mae Llywodraeth Cymru yn adrodd ar y cynnydd a wneir o ran llesiant mewn adroddiad blynyddol.


​​​​
English