Cynhelir arwerthiant planhigion dros dro yng
Nghaffi'r Tŷ Haf ym Mharc ButeDolen allanol yn agor mewn ffenest newydd ar ddydd Sadwrn 23 Ebrill o 10am - 4pm gyda detholiad o stoc wydn a phlanhigion tŷ ar gael.
Bydd yr arwerthiant planhigion dros dro yn helpu i godi arian ar gyfer lle gwerthu planhigion mwy parhaol. Yn y tymor hir, agor meithrinfa Parc Bute i’r cyhoedd gyda'r enw ‘Yr Ardd Gudd' yw’r cynllun. Bydd yn gwerthu planhigion a llwyni a chymerir y tociadau o stoc sefydlog gan wneud y cynllun yn gynaliadwy a lleihau costau cymaint ag y gellir.
Gall aelodau o’r cyhoedd hefyd gael dosbarthiadau ar sut i dyfu a chynnal planhigion a bydd staff yn y feithrinfa yn gyfrifol am werthiannau a dosbarthiadau, gyda’r gobaith y bydd gan grwpiau gwirfoddoli ddiddordeb mewn cymryd rhan.