Sign In
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Parc Trelái

Agorwyd Parc Trelái ym 1933. Mae'n fan agored mawr yn ardal Caerau, Caerdydd. Fe'i defnyddiwyd yn flaenorol fel cwrs rasio, ac mae bellach yn gaeau chwaraeon ac yn faes parcio mawr ag ystafelloedd newid.
Yng nghanol y parc mae safle'r Fila Rufeinig sy'n dyddio o'r ganrif gyntaf OC.


Nodweddion 


  • Safle Fila Rufeinig: Ym 1894 darganfuwyd fila Rufeinig ar Gae Rasio Trelái a chynhaliwyd gwaith cloddio yno ym 1922. Gallwch o hyd weld safle'r fila fel ardal weiriog yng nghanol Parc Trelái, er bod y gwaith cloddio wedi'i orchuddio. Mae'r safle yn heneb gofrestredig.

 

     

Cyfleusterau

 

  • Caeau chwaraeon ac ystafelloedd newid
  • Maes chwarae'r plant
  • Parc Sglefrio

 

     

Oriau Agor

 

7.30am - 30 munud cyn iddi fachlud 

 

 

Sut i ddod o hyd i ni

Pwynt mynediad

GPS

Maes parcio Trelái

314446/176301

 

Trafnidiaeth gyhoeddus: Gweler Bws Caerdydd​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​Dolen allanol yn agor mewn ffenest newydd  am lwybrau lleol neu ewch i TravelineCymru​​​​​​​​​​​​​​Dolen allanol yn agor mewn ffenest newydd  i gynllunio'ch taith ar-lein


Parcio: Parcio ar gael y safle.

​​
English