Gorffennaf 3 i Awst 7
Drwy gydol mis Gorffennaf ac Awst, mae Arts Active yn gweithio gyda phartneriaid ledled y ddinas i gynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau a gweithgareddau celfyddydol hwyliog i blant, pobl ifanc a theuluoedd.
Y digwyddiad arddangos fydd "Tu Allan i'r Drysau, Yn Fyw ar Lawnt Neuadd y Ddinas" lle bydd rhaglen lawn dop o weithgareddau celfyddydol ac adloniant.
Bydd Rhaglen y Celfyddydau hefyd yn mynd allan i ganolfannau cymunedol, canolfannau ieuenctid a chanolfannau hamdden ledled Caerdydd i gynnig gweithgareddau celfyddydol hwyliog pellach i bob oedran.