Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Gweithgareddau yn ystod y gwyliau i blant

​​​​​​Mae gennym lawer o weithgareddau am ddim yn digwydd yn y ddinas a’r ardaloedd cyfagos i sicrhau fod gan blant ddigon i’w wneud yn ystod gwyliau’r ysgol.
 
 

O bêl-droed a sboncen i chwarae meddal a nofio, mae amrywiaeth o weithgareddau ar gael i chi a'ch teulu aros yn actif dros y gwyliau.

Edrychwch beth sydd ar gael yn eich
canolfan hamdden leol

Bydd Cyrsiau Beicio Safonol Cenedlaethol yn cael eu cynnal yn ystod gwyliau’r ysgol yn y ganolfan Diogelwch ar y Ffyrdd y Maendy.

Mae’r cwrs yn agored i holl blant 9 oed a hŷn Caerdydd sy’n gallu beicio ac sy’n berchen ar feic. Cynhelir y cwrs am 4 bore neu brynhawn. 

Dysgwch fwy am y cyrsiau hyfforddiant beicio i blant


Cynhelir sesiynau chwarae i blant ledled Caerdydd ar gyfer plant rhwng 5 a 14 oed.

Maent yn cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau difyr a diddorol i blant. Mae gweithgareddau’n amrywio o chwaraeon a gweithgareddau corfforol i gelf a chrefft a gemau sy’n herio’r ymennydd.

Mae gemau a gweithgareddau unigol a grŵp yn cael eu hyrwyddo.

Dysgwch fwy am ein gwasanaethau chwarae


Ewch am antur dros y tirweddau agored prydferth neu ewch am dro hamddenol ar un o’r teithiau rydym wedi’u hargymell.

Dysgwch fwy am nifer fawr obarciau, gerddi a llwybrau cerdded​ Caerdydd.​


Camwch yn ôl mewn hanes a dewch yn farchog o’r oesoedd canol am y dydd!

Mae Castell Caerdydd yn un o atyniadau treftadaeth mwyaf blaenllaw Cymru.

Mae Castell Caerdydd wedi’i leoli yng nghanol prifddinas Cymru ac yng nghanol parciau prydferth. Mae waliau a thyrau hudol Castell Caerdydd yn cuddio 2,000 o flynyddoedd o hanes rhyfeddol.

Efallai y byddwch chi'n gallu cael mynediad am ddim gydag Allwedd i'r Castell.

Mwy o wybodaeth am Gastell Caerdydd​.


Dilynwch daith prifddinas Cymru a dysgu sut y mae Caerdydd wedi’i thrawsnewid o fod yn un o borthladdoedd prysuraf y byd i’r ddinas fywiog ac amrywiol ag ydyw heddiw.

Dysgwch bopeth am hanes Caerdydd drwy lygaid y rhai hynny a greodd y ddinas – ei phobl.

Ewch i Amgueddfa Stori Caerdydd.​
Mae Ysgol Farchogaeth Caerdydd, sydd wedi’i lleoli yng Nghaeau Pontcanna, yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw lefel o brofiad gyda gwersi preifat neu grŵp i farchogwyr anabl.

Gyda thua 40 o geffylau a merlod yn y ganolfan, mae digonedd o wynebau cyfeillgar i chi gwrdd â nhw.

Mwy o wybodaeth am Ysgol Farchogaeth Caerdydd

Fel yn unrhyw brifddinas, mae digwyddiadau a chyngherddau mawr bob amser yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd.

Dysgwch fwy am ba ddigwyddiadau a gynhelir yng Nghaerdydd nawr yn Croeso Caerdydd. ​​
Nid dim ond sgil hanfodol yw darllen, mae’n hobi gwych ar gyfer unrhyw un o unrhyw oedran!

Ewch i un o’n Hybiau neu Lyfrgelloedd yng Nghaerdydd i weld pa ddigwyddiadau arbennig sydd ‘mlaen yn ystod gwyliau.

Dysgwch fwy am y Hybiau a llyfrgelloedd​. 

 


 

​​

Trafnidiaeth gyhoeddus

 

Ewch i wefan Bws Caerdydd​​​​​​​​​​​​​​​​ i weld manylion eu tocyn diwrnod i'r teulu. Gallwch hefyd ddod o hyd i wybodaeth am y llwybrau i'n cyrchfannau mwyaf poblogaidd.​

© 2022 Cyngor Caerdydd