Mae chwarae stryd yn weithgaredd a arweinir gan breswylwyr sy'n galluogi plant i chwarae'n rhydd, yn yr awyr agored ac yn agos at eu cartrefi. Gall preswylwyr Caerdydd wneud cais am ‘Orchymyn Chwarae Stryd Dros Dro’ a chau eu stryd am ddwy awr y mis, er mwyn rhoi cyfle i blant chwarae dan oruchwyliaeth eu rhieni.
Gellir cau strydoedd i draffig trwodd ar ddydd ac amser penodol bob mis. Dyw preswylwyr ddim yn cael eu hatal rhag parcio, cyrraedd neu adael y stryd tra fo’r plant yn chwarae. Bydd stiwardiaid yn hebrwng preswylwyr i symud eu cerbydau i mewn ac allan o’r stryd.
Mae gennym nifer cyfyngedig o becynnau chwarae ar gael, ond gan fod y cynllun hwn yn dod yn boblogaidd rydym yn gweithio ar sicrhau bod mwy o'n pecynnau ar gael.
Pam mae chwarae'n bwysig?
Mae chwarae yn bwysig i iechyd a lles plant. Mae chwarae stryd yn galluogi plant i fwynhau chwarae rhydd, yn agos at eu cartrefi heb orfod cael eu cludo gan oedolion. Mae'r cynllun yn rhoi lle i blant chwarae'n egnïol ac yn creu cyfleoedd newydd ar gyfer cymdeithasu a chyfeillgarwch. Gall cymdogion weithio gyda'i gilydd a bod yn rhagweithiol wrth drefnu chwarae stryd, gan greu cydlyniant cymunedol. ‘Mae chwarae stryd yn rhoi cyfle i blant chwarae gyda dim ond ‘lled oruchwyliaeth’ tra bo rhieni a phreswylwyr eraill yn dod i adnabod ei gilydd’ -
Chwarae Cymru. Dolen yn agor mewn ffenestr newydd
Er mwyn ei gwneud yn hawdd i chi a'ch cymdogion drefnu Chwarae Stryd, byddwn yn darparu'r cymorth canlynol:
- Help gyda'r cais
- Canllaw i asesu risg, recriwtio stiwardiaid, delio â gyrwyr ac ateb cwestiynau am y cynllun.
-
Ymweld â'ch sesiwn gyntaf, er mwyn sicrhau ei bod yn rhedeg yn ddi-drafferth.
-
Darparu pecyn chwarae stryd gan gynnwys arwyddion, conau, siacedi llachar, chwibanau a gwybodaeth i stiwardiaid a threfnwyr.
- Negeseuon atgoffa i ail-ymgeisio.
Byddwn yn cynnal Cyfarfodydd Rhwydwaith Chwarae Stryd i’r trefnwyr drafod materion a dod o hyd i atebion, ateb unrhyw gwestiynau newydd a chyflwyno awgrymiadau.- Gwiriwch a yw’ch stryd yn addas ar gyfer gwneud cais am ‘Orchymyn Chwarae Stryd Dros Dro’. Ni ellir cau rhai strydoedd oherwydd eu bod ar brif ffordd neu lwybr bws. Mae mwy o wybodaeth am ba strydoedd fyddai'n cael eu hystyried yn addas ar gael
yma.
- Mae'n bwysig eich bod yn ymgynghori â'ch cymdogion i gasglu cefnogaeth dros sesiynau chwarae stryd cyn gwneud cais ffurfiol am 'Orchymyn Chwarae Stryd Dros Dro'. Mae hyn yn rhoi cyfle i breswylwyr ofyn cwestiynau a datrys unrhyw gwestiynau a allai fod ganddynt, gan alluogi’r broses i redeg yn ddi-drafferth.
- Dylech ystyried yr amser a'r diwrnod gorau i gau eich stryd. Mae’n rhaid ei gynnal ar yr un amser a’r un diwrnod bob mis.
- Gofynnwch a fyddai unrhyw breswylwyr yn hoffi cymryd rhan i helpu i drefnu sesiynau parhaus, neu i fod yn stiward ar gyfer y sesiynau chwarae stryd.
- Gwnewch yn siŵr fod gennych ddigon o stiwardiaid i weithredu ardal chwarae stryd yn ddiogel. Mae angen dau stiward ym mhob pen yr ardal chwarae stryd. Efallai y bydd angen stiwardiaid ychwanegol yn dibynnu ar gynllun y stryd.
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys map o'ch stryd gyda phwyntiau cau wedi'u nodi yn eich cais.
- Bydd angen cynnal asesiad risg ar gyfer eich stryd. Byddwn yn cynnig cymorth i gwblhau hyn.
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio'r pecyn chwarae ar y stryd, a ddarperir gan ein Gwasanaethau Chwarae i Blant, ym mhob sesiwn.
Sut i wneud cais am ‘Orchymyn Chwarae Stryd Dros Dro’
Ni fydd rhai strydoedd yn addas ar gyfer y cynllun hwn, megis prif ffyrdd a llwybrau bysus. Fel arfer, strydoedd ochr a ffyrdd pengaead yw'r rhai mwyaf priodol. Bydd yn rhaid ystyried yr effaith ar yr ardal gyfagos bob amser. Rydym yn cadw’r hawl i wrthod ‘Gorchymyn Chwarae Stryd Dros Dro’ os bernir y byddai’n anaddas neu y byddai’n tarfu anfoddhaol ar yr ardal.
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais am 'Orchymyn Chwarae Stryd Dros Dro', llenwch y ffurflen Cysylltu â ni isod i fynegi diddordeb am eich stryd.
Dylech gynnwys manylion am y stryd yr ydych yn bwriadu ei chau yn adran negeseuon y ffurflen.
Ar ôl derbyn eich ffurflen byddwn mewn cysylltiad i roi gwybod i chi a yw’ch stryd yn addas a beth i'w wneud nesaf.
Mynegwch ddiddordeb wrth ddefnyddio’r ffurflen hon.
Cysylltu â ni