Diwrnod Chwarae 2020 Rhyddid Bob Dydd, Antur Bob Dydd!
Bob blwyddyn byddwn yn cynnal digwyddiad Diwrnod Chwarae Cenedlaethol am ddim yn un o fannau gwyrdd y ddinas.
Dathliad blynyddol yw diwrnod chwarae i godi ymwybyddiaeth o hawl plant i chwarae a phwysigrwydd chwarae ym mywyd pob plentyn. Mae chwarae yn rhoi manteision enfawr i blant a phobl ifanc, mae’n cefnogi eu lles ac yn eu galluogi i archwilio a datblygu eu dealltwriaeth o'r byd o'u cwmpas.
Rydyn ni wedi llunio rhai gweithgareddau i helpu i gefnogi eich lles.
Dewis o ystumiau yoga hwyliog, gemau dan do ac awyr agored, crefftau ac ymarferion ymestyn.
Ystumiau Yoga
Rhowch gynnig ar rai o'r ystumiau yoga hwyliog hyn!
Ystum y Mynydd
Ystum y Jiráff
-
Dechreuwch gyda'ch coes dde wedi'i phlygu ychydig i'r ochr.
-
Gorffwyswch eich braich dde ar y goes sydd wedi ei phlygu.
-
Codwch eich braich arall yn yr awyr fel dawnsiwr bale.
-
Anadlwch i mewn ac allan yn araf wrth aros yn y safle hwn.
Ystum y Plentyn
-
Ar eich dwylo a phengliniau, pwyswch eich cluniau yn ôl tuag at eich sodlau.
-
Ymestynnwch eich breichiau ymlaen tua’r ddaear.
-
Anadlwch i mewn ac allan ac ymlaciwch.
Ystum y Goeden
-
Sefwch yn syth ac yn dal yn Ystum y Mynydd.
-
Edrych yn syth ymlaen a dewis pwynt i ganolbwyntio arno.
-
Yn araf, dewch â'ch troed chwith i fyny.
-
Plygwch eich pen-glin a rhowch eich troed y tu mewn i'ch coes dde.
-
Dewch â'ch dwylo at ei gilydd o flaen eich calon, yna codwch nhw i fyny'n uchel i'r awyr fel coeden!
Ewch allan i’r awyr iach a chael hwyl gyda'n dewis o gemau, gweithgareddau a chrefftau.
Creu porthwr adar
Bydd angen:
-
canol y rholyn tŷ bach
llinyn neu edafedd
menyn cnau daear neu fêl
hadau neu cwinoa
Cam 1:
Rhowch eich llinyn drwy'r rholyn tŷ bach a chlymwch yn ddiogel.
Cam 2:
Taenwch fenyn cnau daear neu fêl dros y tu allan i'r rholyn tŷ bach.
Cam 3:
Taenwch hadau neu cwinoa dros y rholyn tŷ bach.
Cam 4:
Rhowch y porthwr i hongian ar gangen coeden neu lein ddillad.
Taflenni Gweithgareddau Awyr Agored
Ewch ar antur awyr agored a gweld a allwch chi ddod o hyd i'r holl eitemau sydd ar ein rhestr hela!
Gan ddefnyddio cymesuredd rhowch gynnig ar dynnu hanner arall ein lluniau natur.
Ffeithiau hwyliog a gweithgareddau crefft awyr agored i roi cynnig arnyn nhw.