Mae mwy na 450 o ddosbarthiadau bob wythnos ledled y ddinas.
Mae'r rhaglen hwyl, ddeinamig ac amrywiol hon yn cynnwys:
Craidd Actif
Ymarferion craidd sy'n canolbwyntio ar sefydlogi, stamina neu gryfhau'r cyhyrau craidd. Targedir hyn drwy ein Dosbarthiadau Pilates a Phêl Ffitrwydd.
Chwilio am ddosbarthiadau Actif CraiddDolen allanol yn agor mewn ffenest newydd
Dawns Actif
Dylunnir dosbarthiadau ymarfer corff dawns mewn ffordd sy'n hwyl ac yn fywiog i bawb. Felly ewch i'ch dosbarthiadau Zumba, Bokwa a Dawns Stryd i ddangos eich symudiadau i ni!
Chwilio am ddosbarthiadau Dawns ActifDolen allanol yn agor mewn ffenest newydd
Egni Actif
Mae dosbarthiadau Egni yn gymysgedd o raglenni stamina strwythuredig i herio'ch ffitrwydd corfforol. Ymhlith y dosbarthiadau mae Aerobeg, Camau, Sbin, ymarferion i'r coesau, y pen-ôl a'r bol.
Chwilio am ddosbarthiadau Egni ActifDolen allanol yn agor mewn ffenest newydd
Pŵer Actif
Mae dosbarthiadau pŵer yn gwella cryfder a stamina'r cyhyrau. Ymhlith y dosbarthiadau mae Bocsymarfer, Ymarferion Cylch, Powermax, TRX a Kettlebells.
Chwilio am ddosbarthiadau Pŵer ActifDolen allanol yn agor mewn ffenest newydd
Ysbryd Actif
Gall dosbarthiadau adfywiol helpu i leihau ar straen bob dydd. Ymhlith y dosbarthiadau mae Ioga ac Ioga Ffitrwydd.
Chwilio am ddosbarthiadau Actif AdfywiolDolen allanol yn agor mewn ffenest newydd
I gael rhagor o fanylion cysylltwch â'ch canolfan hamdden leol neu'ch cyfleuster cymunedol lleol.