Mae'r tîm A2: Actifyddion Artistig yn gweithio gydag adran Datblygu'r Celfyddydau, Neuadd Dewi Sant a'r Theatr Newydd i gynnig amrywiaeth o fentrau addysg, mentrau cymunedol a mentrau ymgysylltu â chynulleidfaoedd.
Addysg, ymgysylltu â’r gymuned ac ymgysylltu â’r gynulleidfa yn Neuadd Dewi Sant a’r Theatr Newydd.
- Datblygu cynulleidfaoedd.
- Helpu i oresgyn y rhwystrau sy’n gallu atal rhai pobl rhag mwynhau’r celfyddydau.
- Datblygu talentau a sgiliau bywyd, yn enwedig ymhlith grwpiau sydd dan anfantais gymdeithasol ac economaidd, ac y gall cymryd rhan yn y celfyddydau ac ymgysylltu â hwy eu sbarduno i newid a datblygu’n bersonol.
- Codi proffil Neuadd Dewi Sant a’r Theatr Newydd.
Ers 25 mlynedd, Neuadd Dewi Sant yw Neuadd Gyngerdd Genedlaethol Cymru, ac mae’r Theatr Newydd, sef adeilad prydferth o’r Oes Edwardaidd a adferwyd, yn rhan annatod o fywyd diwylliannol Caerdydd ers 1906. Yn ogystal â darparu rhaglen amrywiol iawn sy’n cwmpasu cerddoriaeth, drama a dawns, mae’r ddau leoliad yn cynnal rhaglen gymunedol amrywiol – sef Actifyddion Artistig – a gynhaliodd 24 o brojectau ledled Caerdydd a’r cyffiniau y llynedd, gan ddarparu 860 o sesiynau i 9,868 o gyfranogwyr gwahanol. Cydnabyddir mai’r rhaglen addysgol a chymunedol Actifyddion Artistig yw un o’r goreuon o’i math a ddarperir gan leoliad celfyddydau perfformio, gan gyflwyno’r celfyddydau perfformio a gweledol mewn ffordd newydd ac arloesol i’r ystod ehangaf posibl o bobl, yn enwedig y rheini nad ydynt erioed wedi cael cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydol o’r blaen.
Lefel 1
Lefel 1 yw ein man stiwdio sydyn yn Neuadd Dewi Sant rydym yn ei ddatblygu yn hen fwyty Celebrity. Byddwn yn defnyddio’r lleoliad i hyrwyddo gwaith ar gyfer pobl ifanc, gan bobl ifanc a chyda phobl ifanc. Drwy Lefel 1 ein nod yw rhoi blas i bobl ifanc ar bob agwedd ar gyflwyno perfformiadau, o farchnata, y swyddfa docynnau, rheoli’r theatr a gwaith technegol, i’r broses o greu a chyflwyno’r sioe ei hun.
Gamelan Caerdydd
Rydym yn defnyddio ein hofferynnau cerdd o Java i gynorthwyo addysgu cerddoriaeth mewn ysgolion, hwyluso chwarae cerddoriaeth mewn grwpiau a hybu dull cerddorol nad yw’n perthyn i fyd y gorllewin.
Dawns Haf
Rydym yn hwyluso rhaglen hyfforddiant dawns o ansawdd uchel ar gyfer pobl ifanc sydd â diddordeb mewn dilyn gyrfa fel dawnsiwr sy’n datblygu eu technegau a'u sgiliau, ac yn rhoi dealltwriaeth iddynt o ddisgyblaethau a byd dawnsiwr proffesiynol.
Tiddly Prom
Rydym yn cyflwyno cyngerdd oedran cyn ysgol sy’n hygyrch, yn rhyngweithiol ac sy’n llawn gwybodaeth i leoliadau a chanolfannau cymunedol, gan gyrraedd y plant ifanc hynny na fyddant fel arfer yn cael profi cerddoriaeth fyw.
Tidy!
Rydym yn cydweithio â disgyblion ysgolion cynradd i ddefnyddio’u gwaith i greu perfformiad sy’n llawn hwyl sy’n ystyried y materion a’r ffeithiau sy’n ymwneud â llygredd, a pharchu’r amgylchedd lleol drwy gerddoriaeth, celf weledol a barddoniaeth.
CerddCymysg
Rydym yn hybu creu cerddoriaeth gyda chymorth proffesiynol, a’i chyflwyno waeth beth fo’r lefel o arbenigedd, sgiliau neu gefndir rhywun, i’r safon uchaf posibl fel unigolyn, mewn grŵp bach neu ensemble mawr.
Lleoliad+
Rydym yn cydweithio’n agos â llawer o’r cynyrchiadau a’r hyrwyddwyr sy’n cyflwyno perfformiadau yn Neuadd Dewi Sant a’r Theatr Newydd er mwyn hwyluso a hyrwyddo unrhyw gyfleoedd ar y cyd ar gyfer gweithgarwch addysgol a chymunedol.
Profiad Gwaith
Rydym hefyd yn cynnal rhaglen profiad gwaith, lleoliadau ac interniaethau gynhwysfawr i fyfyrwyr ysgol uwchradd, myfyrwyr prifysgol a’r tu hwnt.
Cysylltu â’r Tîm A2: Actifyddion Artistig