Mae awdurdodau lleol yn gweinyddu taliadau ar gyfer y cynllun ar ran Gweinidogion Cymru.
Mae’r broses hon yn berthnasol pan fo cais wedi cael ei wrthod gan yr awdurdod lleol.
Mae dau gam i’r broses apelio.
Cam 1 – Ailystyried
- Bydd y cyflogai/gweithiwr asiantaeth yn gofyn am ailystyried penderfyniad yr awdurdod lleol
- Caiff ffurflen ei chwblhau i nodi pa feini prawf cymhwysedd y mae’r unigolyn yn credu sy’n ei wneud yn gymwys
- Cynhelir y broses ailystyried gan yr Awdurdod Lleol. Byddwn yn rhoi nodyn cynghori er mwyn sicrhau bod Awdurdodau Lleol yn defnyddio dull cyson yn ystod y cam hwn
- Os oes camgymeriad wedi’i wneud a bod y cyflogai/gweithiwr asiantaeth gofal yn gymwys, bydd yr Awdurdod Lleol yn trefnu’r taliad
- Os yw’r Awdurdod Lleol yn dal i benderfynu nad yw’r gweithiwr yn gymwys, bydd yn anfon llythyr at yr unigolyn yn nodi’r rhesymeg y tu ôl i’r penderfyniad (darperir templed). Rhoddir gwybod i’r unigolyn y gall gyflwyno cais i symud i Gam 2.
- Os yw’r Awdurdod Lleol yn ansicr, oherwydd natur gymhleth neu unigryw yr amgylchiadau, bydd yn cyfeirio at Gam 2 ac yn rhoi gwybod i’r unigolyn
Amserlen ar gyfer canlyniad Cam 1 – 10 diwrnod gwaith.
Cam 2 – Panel Apeliadau Llywodraeth Cymru
- Bydd Panel Llywodraeth Cymru yn ystyried apeliadau yn dilyn cwblhau Cam 1 o’r broses ailystyried, pan fydd unigolion yn dymuno parhau â’r apêl. Gall yr Awdurdod Lleol gyfeirio’r apêl at y Panel ei hun, pan nad yw’n teimlo ei fod yn gallu gwneud penderfyniad oherwydd cymhlethdod/ansicrwydd
- Bydd Cydgysylltydd y Cynllun yn cofnodi atgyfeiriadau ac yn monitro amserlenni a phrosesau
- Mae Cylch Gorchwyl y Panel Apeliadau yn nodi na all newid meini prawf cymhwysedd y cynllun
- Bydd sail resymegol glir yn cael ei chofnodi ar gyfer pob penderfyniad a llythyr templed yn cael ei anfon at y gweithiwr unigol a chopi i’w gyflogwr a’r Awdurdod Lleol perthnasol
- Bydd Cydgysylltydd y Cynllun yn rhannu’r hyn a ddysgwyd am unrhyw benderfyniadau a wnaed gyda’r Awdurdodau Lleol ac yn cydlynu’r gwaith o ddiwygio dogfennau Cwestiynau Cyffredin yn unol â hynny
Amserlen ar gyfer canlyniad Cam 2 – 10 diwrnod gwaith ar ôl canlyniad Cam 1
Gwneud penderfyniadau
Mae gan y Panel Apeliadau awdurdod dirprwyedig gan Weinidogion Cymru i wneud penderfyniadau am apeliadau. Bydd y Cadeirydd yn gofyn i’r Panel gyrraedd consensws. Pan nad yw’r Cadeirydd yn credu y gall y Panel wneud penderfyniad hyderus, bydd y mater yn cael ei gyfeirio at Weinidogion Cymru.
Bydd Gweinidogion Cymru yn gwneud penderfyniad yn dilyn cael rhagor o gyngor a gwybodaeth yn ôl yr angen. Mae’r broses hon yn debygol o gael ei dirprwyo i Ddirprwy Gyfarwyddwr o fewn y Gwasanaeth Sifil.
Cyfansoddiad y Panel Apeliadau
Grŵp gorchwyl a gorffen yw’r Panel Apeliadau i bob pwrpas, lle y gall Gweinidogion wneud penodiadau heb ymgynghori. Ni roddir tâl cydnabyddiaeth. Mae’r Panel yn cynnwys cynrychiolydd o Lywodraeth Cymru, cynrychiolydd o awdurdod lleol, cynrychiolydd o TUC Cymru, cynrychiolydd ar ran y darparwr a Chadeirydd. Gall y Panel geisio cyngor cyfreithiol gan Wasanaethau Cyfreithiol Llywodraeth Cymru.
Bydd gofyn i’r holl gynrychiolwyr ddatgan unrhyw wrthdrawiad buddiannau a pheidio â gwrando ar yr apeliadau hynny. Bydd y cynrychiolwyr wedi nodi cydweithwyr i ddirprwyo o dan amgylchiadau o’r fath.
Pa mor aml y cynhelir cyfarfodydd y Panel
Mae’n anodd rhagweld y galw ond mae gwneud penderfyniadau amserol yn bwysig er mwyn osgoi amser aros diangen i’r unigolion dan sylw. Rydym yn cynnig cynnal cyfarfodydd Panel wythnosol. Bydd y rhain yn cael eu canslo pan nad oes unrhyw fusnes.
Amserlen y cyfarfodydd Panel
Mae dyddiad cyfarfod cyntaf y Panel yn dibynnu ar y dyddiad y gwneir y taliadau cyntaf. Ni allwn ragweld cynnydd neu leihad yn nifer yr atgyfeiriadau at y Panel dros amser gan fod gweithwyr gofal yn debygol o gael eu talu dros nifer o fisoedd.
Ystyriaethau o ran adnoddau
Cydgysylltydd y Cynllun: Cyfrifoldebau:
- Monitro blwch negeseuon e-bost dynodedig sy’n un man cyswllt ar gyfer Awdurdodau Lleol
- Derbyn ac olrhain atgyfeiriadau
- Trefnu cyfarfodydd y Panel/dosbarthu papurau ymlaen llaw
- Anfon llythyrau penderfyniad
- Rhannu’r hyn a ddysgwyd a’r datblygiadau gyda'r Awdurdodau Lleol a diweddaru dogfennau Cwestiynau Cyffredin/canllawiau i Awdurdodau Lleol er mwyn sicrhau cysondeb wrth wneud penderfyniadau
- Rheoli gohebiaeth uniongyrchol gan unigolion am y broses – ailgyfeirio’r rhain at yr Awdurdod Lleol
Cadeirydd: Bydd ef/hi yn
- Yn unigolyn allanol, nad yw’n cael ei gyflogi gan Lywodraeth Cymru, awdurdod lleol na darparwr gofal cymdeithasol perthnasol
- Yn meddu ar ddealltwriaeth o ofal cymdeithasol a sut mae darpariaeth gofal wedi’i strwythuro
- Yn meddu ar sgiliau a phrofiad o gadeirio cyfarfodydd amlddisgyblaethol a chymryd rhan ynddynt
- Yn hyderus wrth gynnal cyfarfodydd Panel gan ddefnyddio Microsoft Teams
- Wedi nodi nad oes ganddo unrhyw fuddiannau sy’n gwrthdaro
- Yn meddu ar sgiliau trefnu a chyfathrebu proffesiynol da, dealltwriaeth o faterion cyfrinachedd a bydd yn ymroddedig i hyrwyddo cydraddoldeb drwy ei waith.
Camau pellach
O dan amgylchiadau eithriadol iawn, gall y Panel nodi na all wneud penderfyniad o dan delerau’r canllawiau presennol a bydd eithriad neu ddiwygiad i’r canllawiau yn cael ei ystyried gan Weinidogion Cymru.
Gall unigolyn sy’n parhau i fod yn anfodlon gyda’r penderfyniad am eu taliad wneud cais am Adolygiad Barnwrol.