Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Rôl gofalwr maeth

Pan fydd yn rhaid i blant gael ‘gofal’ i ffwrdd o’r cartref, teulu maeth fydd dewis cyntaf y Gwasanaethau Plant fel arfer. Yn aml cytunir ar hyn gyda rhieni’r plentyn ac, yn ddelfrydol, bydd y lleoliad yn eithaf agos i’r cartref (os yn briodol). Bydd y rhan fwyaf o blant yn dychwelyd adref ar ôl ychydig ddyddiau, wythnosau neu fisoedd. Ni fydd rhai yn gallu dychwelyd at eu teuluoedd, a bryd hynny byddwn yn ceisio chwilio am deulu parhaol iddynt. 

 

Bydd nifer o blant yn derbyn gofal ar sail cytundeb gwirfoddol rhwng eu rhieni a’r gwasanaethau cymdeithasol. Os bydd llys wedi gorchymyn bod plentyn i dderbyn gofal, bydd y Cyngor yn rhannu cyfrifoldeb rhianta gyda’r rhieni. Nid oes gan ofalwyr maeth gyfrifoldeb rhianta ond mae ganddynt gyfrifoldeb dirprwyedig i ofalu am y plentyn o ddydd i ddydd. Cwmpesir hyn gan Ddeddf Plant 1989 a Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003. 

 

Eich rôl fel gofalwr maeth yw gweithio fel aelod o dîm, gan helpu plentyn neu berson ifanc drwy ddarparu diogelwch, sefydlogrwydd a gofal yn ystod cyfnod anodd yn ei fywyd. Gall plant ymateb yn negyddol i’w profiadau blaenorol neu o gael eu gwahanu o'u rhieni, ac mae angen i ofalwyr maeth ymateb yn gadarnhaol a chynorthwyol. Nodwedd hollbwysig o swyddogaeth gofalwr maeth yw cefnogi’r cydberthnasau o fewn teuluoedd plant a helpu’r plant a phobl ifanc i ffurfio perthnasau ymddiriedus ag oedolion. 

 

Fel gofalwr maeth bydd disgwyl i chi wneud rhai o'r canlynol, neu bob un ohonynt:

 

  • prynu dillad a phethau eraill angenrheidiol ar gyfer y plentyn (cewch lwfans i dalu am y pethau hyn)
  • mynychu apwyntiadau meddygol
  • helpu i ddod o hyd i addysg neu gefnogi addysg y plentyn, gan gynnwys ei hebrwng i'r ysgol, a'i helpu gyda gwaith cartref
  • helpu i drefnu cyswllt â rhieni ac aelodau’r teulu
  • mynychu cyfarfodydd rheolaidd er lles y plentyn
  • cadw cofnodion o gynnydd y plentyn ac unrhyw ddatblygiadau arwyddocaol
  • llunio neu gyfrannu at adroddiadau ar gyfer y llys (os yn briodol)
  • cadw mewn cysylltiad â gweithiwr cymdeithasol y plentyn ynglŷn ag unrhyw beth sy’n effeithio ar y plentyn
  • cynorthwyo â gwaith ar hanes bywyd y plentyn er mwyn deall ei gefndir
  • mynychu cyfarfodydd grŵp cymorth â gofalwyr eraill
  • mynychu sesiynau hyfforddi gorfodol a phenodol
  • bod ar gael ar gyfer goruchwyliaeth gyda’ch gweithiwr cymdeithasol.

 

Get in touch


Cysylltwch â’n tîm maethu [contact form to include phone number] a fydd yn hapus i'ch ffonio nôl a rhoi mwy o wybodaeth i chi am y mathau o faethu sydd ar gael yng Nghaerdydd ac esbonio’r camau nesaf os hoffech ymuno â’n tîm. Byddwn hefyd yn anfon un o’n Pecynnau Gwybodaeth am Faethu atoch.


Y camau nesaf


Ar ôl i chi siarad ag un o’r tîm, bydd y swyddog cymorth maethu yn cynnig ymweld â chi i drafod ymhellach ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.

Os ydych yn hapus i fwrw ymlaen â’ch cais i fod yn ofalwr maeth, byddwn yn eich helpu i lenwi pecyn ymgeisio. Yn dilyn ein hasesiad cychwynnol, penodir gweithiwr cymdeithasol i gynnal ail asesiad manylach.

 

© 2022 Cyngor Caerdydd