Efallai bod plentyn rhywun arall yn byw gyda rhywun rydych yn ei nabod. Gallai fod yn gofalu am y plentyn am resymau amrywiol.
Gall fod yn anodd dweud, ond p’un a ydych yn gymydog, athro, nyrs neu unrhyw un arall sydd mewn cysylltiad â phlant, mae rhai arwyddion y dylech edrych amdanynt:
Yn y cartref
- Mae plentyn nad ydych yn ei nabod yn dechrau byw drws nesaf
- Mae plentyn rydych yn ei nabod o’r gymdogaeth yn diflannu’n sydyn
- Mae llawer o blant gwahanol yn aros gyda’ch cymydog ar adegau gwahanol
Yn yr ysgol
- Mae rhiant yn eich ysgol wedi troi i fyny gyda ‘nith’ neu ‘nai’ sy’n aros gydag ef am gyfnod.
- Mae plentyn o’r dosbarth yn diflannu heb rybudd.
- Mae plentyn yn eich dosbarth yn dweud ei fod yn aros gyda dieithryn neu berthynas bell.
Yn y feddygfa
- Mae claf yn troi i fyny gyda phlentyn nad ydych wedi'i weld o’r blaen.
- Mae claf yn troi i fyny gyda llawer o blant gwahanol yn rheolaidd y mae’n cyfeirio atynt fel ‘nithoedd’ neu ‘neiaint’.
- Mae plentyn yn dweud nad ei riant yw'r person sydd gydag ef
Beth fydd yn digwydd os na fyddaf yn rhoi gwybod i chi?
- Mewn rhai achosion efallai na fydd y trefniant yn addas a gallai’r plentyn/person ifanc fod mewn perygl os na chaiff gymorth.
- Mewn llawer o achosion bydd y lleoliad maethu preifat yn addas ar gyfer y plentyn/person ifanc, ond os nad ydym yn gwybod amdano bydd y plentyn/person ifanc, ei deulu a’r gofalwr/gofalwyr maeth preifat yn colli allan ar ein help a’n cymorth.
Os oes angen i chi roi gwybod i ni am drefniadau maethu preifat neu os hoffech siarad â ni i gael gwybodaeth a chyngor, ffoniwch:
Y Pwynt Cyswllt Plant
029 2053 6490
Dydd Llun i ddydd Gwener 8.30am-5pm