Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Ydych chi'n gwybod am blentyn sy'n cael ei faethu'n breifat?

Efallai bod plentyn rhywun arall yn byw gyda rhywun rydych yn ei nabod. Gallai fod yn gofalu am y plentyn am resymau amrywiol.

 

Gall fod yn anodd dweud, ond p’un a ydych yn gymydog, athro, nyrs neu unrhyw un arall sydd mewn cysylltiad â phlant, mae rhai arwyddion y dylech edrych amdanynt:

 

Yn y cartref

 

  • Mae plentyn nad ydych yn ei nabod yn dechrau byw drws nesaf
  • Mae plentyn rydych yn ei nabod o’r gymdogaeth yn diflannu’n sydyn
  • Mae llawer o blant gwahanol yn aros gyda’ch cymydog ar adegau gwahanol

 

Yn yr ysgol

 

  • Mae rhiant yn eich ysgol wedi troi i fyny gyda ‘nith’ neu ‘nai’ sy’n aros gydag ef am gyfnod.
  • Mae plentyn o’r dosbarth yn diflannu heb rybudd.
  • Mae plentyn yn eich dosbarth yn dweud ei fod yn aros gyda dieithryn neu berthynas bell.


Yn y feddygfa

 

  • Mae claf yn troi i fyny gyda phlentyn nad ydych wedi'i weld o’r blaen.
  • Mae claf yn troi i fyny gyda llawer o blant gwahanol yn rheolaidd y mae’n cyfeirio atynt fel ‘nithoedd’ neu ‘neiaint’.
  • Mae plentyn yn dweud nad ei riant yw'r person sydd gydag ef

 

Beth fydd yn digwydd os na fyddaf yn rhoi gwybod i chi?

 

  • Mewn rhai achosion efallai na fydd y trefniant yn addas a gallai’r plentyn/person ifanc fod mewn perygl os na chaiff gymorth.
  • Mewn llawer o achosion bydd y lleoliad maethu preifat yn addas ar gyfer y plentyn/person ifanc, ond os nad ydym yn gwybod amdano bydd y plentyn/person ifanc, ei deulu a’r gofalwr/gofalwyr maeth preifat yn colli allan ar ein help a’n cymorth.

 

Os oes angen i chi roi gwybod i ni am drefniadau maethu preifat neu os hoffech siarad â ni i gael gwybodaeth a chyngor, ffoniwch:

 

Y Pwynt Cyswllt Plant

 

029 2053 6490

 

Dydd Llun i ddydd Gwener                     8.30am-5pm

© 2022 Cyngor Caerdydd