Os ydych chi wedi bod yn gofalu am blentyn rhywun arall nad yw’n berthynas agos am o leiaf 28 diwrnod, mae’n bosibl eich bod yn ofalwr maeth preifat. Os ydych chi’n ofalwr maeth preifat mae’n rhaid i chi roi gwybod i’ch cyngor lleol dan y gyfraith.
Nid oes yn rhaid i chi gael eich talu i fod yn ofalwr maeth preifat. Fodd bynnag, mae’r gyfraith yn nodi bod yn rhaid i’r Gwasanaethau Cymdeithasol ymweld â chi, cynnig cymorth i chi a hyrwyddo lles y plentyn.
Mae’n dderbyniol gofalu am rywun am gyfnod byr, er enghraifft i helpu ffrind i wella ar ôl salwch neu ofalu am ffrind eich plentyn yn ystod gwyliau. Rhaid i chi ofalu am rywun am o leiaf 28 diwrnod mewn blwyddyn i hyn gyfrif fel maethu preifat.
Pa mor hen y mae’n rhaid i’r plant fod er mwyn i mi beidio â gorfod rhoi gwybod i chi?
16, neu 18 os oes ganddynt anabledd.
Beth yw ystyr ‘perthynas agos’?
Rhiant, tad-cu neu fam-gu, brawd, chwaer, ewythr, modryb neu lys-riant. Felly, er enghraifft, byddai cefnder/cyfnither sy’n edrych ar ôl plentyn yn ofalwr maeth preifat.
Ni fyddai rhywun sydd â chyfrifoldeb rhianta cyfreithiol dros blentyn yn ofalwr maeth preifat.
Beth fyddwch chi’n ei wneud ar ôl i mi roi gwybod i chi?
Byddwn yn:
- rhoi cyngor a chymorth i chi
- sicrhau bod gennych chi’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch a bod gennym ni’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnom ni
- cadarnhau eich bod chi ac aelodau eraill eich cartref yn addas i ofalu am y plentyn – bydd hyn yn cynnwys gwiriad iechyd a gwiriad y Swyddfa Datgelu a Gwahardd
- gwneud yn siŵr bod eich cartref yn ddiogel
- ymweld â chi a’r plentyn yn rheolaidd i wneud yn siŵr bod popeth yn mynd yn iawn
Beth fydd yn digwydd os na fyddaf yn pasio’r holl brofion?
Rhaid i ni benderfynu a yw’r trefniant er budd y plentyn. Nid yw hyn yn golygu bod yn rhaid iddo fod yn berffaith, ond gallwn derfynu trefniant os nad yw er budd y plentyn.
Gallwn ofyn i chi wneud rhai pethau, e.e. gwneud yn siŵr bod y plentyn yn aros mewn cysylltiad â’i rieni neu fod ei anghenion diwylliannol yn cael eu diwallu. Gallwch apelio i lys ynadon os ydych yn anghytuno.
Beth fydd yn digwydd os na fyddaf yn rhoi gwybod i chi?
- Bydd y plentyn/person ifanc, ei deulu a’ch teulu chi yn colli allan ar ein help a’n cymorth.
- Os ydych yn ofalwr maeth preifat ac nad ydych yn rhoi gwybod i ni, rydych chi’n torri’r gyfraith. Gallech gael eich erlyn a chael dirwy.
Os oes angen i chi roi gwybod i ni am drefniadau maethu preifat neu os hoffech siarad â ni i gael gwybodaeth a chyngor, ffoniwch:
Y Pwynt Cyswllt Plant
029 2053 6490
Dydd Llun i ddydd Gwener 8.30am-5pm
Os ydych am wneud hyn y tu allan i'r oriau hyn, cysylltwch â'r tîm argyfwng ar ddyletswydd ar 029 2078 8570.