Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Ydych chi’n gofalu am blentyn rhywun arall?

Os ydych chi wedi bod yn gofalu am blentyn rhywun arall nad yw’n berthynas agos am o leiaf 28 diwrnod, mae’n bosibl eich bod yn ofalwr maeth preifat. Os ydych chi’n ofalwr maeth preifat mae’n rhaid i chi roi gwybod i’ch cyngor lleol dan y gyfraith. 


Nid oes yn rhaid i chi gael eich talu i fod yn ofalwr maeth preifat. Fodd bynnag, mae’r gyfraith yn nodi bod yn rhaid i’r Gwasanaethau Cymdeithasol ymweld â chi, cynnig cymorth i chi a hyrwyddo lles y plentyn. 


Mae’n dderbyniol gofalu am rywun am gyfnod byr, er enghraifft i helpu ffrind i wella ar ôl salwch neu ofalu am ffrind eich plentyn yn ystod gwyliau. Rhaid i chi ofalu am rywun am o leiaf 28 diwrnod mewn blwyddyn i hyn gyfrif fel maethu preifat.

 

Pa mor hen y mae’n rhaid i’r plant fod er mwyn i mi beidio â gorfod rhoi gwybod i chi?


16, neu 18 os oes ganddynt anabledd.

 

Beth yw ystyr ‘perthynas agos’?


Rhiant, tad-cu neu fam-gu, brawd, chwaer, ewythr, modryb neu lys-riant. Felly, er enghraifft, byddai cefnder/cyfnither sy’n edrych ar ôl plentyn yn ofalwr maeth preifat.   


Ni fyddai rhywun sydd â chyfrifoldeb rhianta cyfreithiol dros blentyn yn ofalwr maeth preifat.

 

Beth fyddwch chi’n ei wneud ar ôl i mi roi gwybod i chi?


Byddwn yn:


  • rhoi cyngor a chymorth i chi
  • sicrhau bod gennych chi’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch a bod gennym ni’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnom ni
  • cadarnhau eich bod chi ac aelodau eraill eich cartref yn addas i ofalu am y plentyn – bydd hyn yn cynnwys gwiriad iechyd a gwiriad y Swyddfa Datgelu a Gwahardd
  • gwneud yn siŵr bod eich cartref yn ddiogel
  • ymweld â chi a’r plentyn yn rheolaidd i wneud yn siŵr bod popeth yn mynd yn iawn 


 

Beth fydd yn digwydd os na fyddaf yn pasio’r holl brofion?


Rhaid i ni benderfynu a yw’r trefniant er budd y plentyn. Nid yw hyn yn golygu bod yn rhaid iddo fod yn berffaith, ond gallwn derfynu trefniant os nad yw er budd y plentyn. 


Gallwn ofyn i chi wneud rhai pethau, e.e. gwneud yn siŵr bod y plentyn yn aros mewn cysylltiad â’i rieni neu fod ei anghenion diwylliannol yn cael eu diwallu. Gallwch apelio i lys ynadon os ydych yn anghytuno. 


Beth fydd yn digwydd os na fyddaf yn rhoi gwybod i chi?


  • Bydd y plentyn/person ifanc, ei deulu a’ch teulu chi yn colli allan ar ein help a’n cymorth.
  • Os ydych yn ofalwr maeth preifat ac nad ydych yn rhoi gwybod i ni, rydych chi’n torri’r gyfraith. Gallech gael eich erlyn a chael dirwy.

 

Os oes angen i chi roi gwybod i ni am drefniadau maethu preifat neu os hoffech siarad â ni i gael gwybodaeth a chyngor, ffoniwch: 


Y Pwynt Cyswllt Plant 


029 2053 6490


Dydd Llun i ddydd Gwener                     8.30am-5pm

 

Os ydych am wneud hyn y tu allan i'r oriau hyn, cysylltwch â'r tîm argyfwng ar ddyletswydd ar 029 2078 8570.

© 2022 Cyngor Caerdydd