Maethu preifat yw lle bo plentyn dan 16 oed (dan 18 oed os yn anabl) yn cael gofal gan rywun ar wahân i riant neu berthynas agos. Mae hwn yn drefniant preifat a wneir rhwng rhiant a gofalwr am 28 diwrnod neu fwy. Diffinnir perthnasau agos fel llys-rieni, mam-gu a thad-cu, brodyr, chwiorydd, ewythr neu fodryb (boed yn rhai gwaed llawn, hanner gwaed neu drwy briodas/perthynas).
Os oes angen i chi roi gwybod i ni am drefniadau maethu preifat neu os hoffech siarad â ni i gael gwybodaeth a chyngor, ffoniwch:
Y Pwynt Cyswllt Plant
029 2053 6490
Dydd Llun i ddydd Gwener 8.30am-5pm
Os ydych am wneud hyn y tu allan i'r oriau hyn, cysylltwch â'r tîm argyfwng ar ddyletswydd ar 029 2078 8570.
Beth fydd yn digwydd os na fyddaf yn rhoi gwybod i chi?
- Bydd y plentyn/person ifanc a’r gofalwyr yn colli allan ar ein help a’n cymorth.
- Os ydych yn rhiant sy’n gadael i’ch plentyn gael gofal gan ofalwr maeth preifat, neu os ydych yn ofalwr maeth preifat ac nad ydych yn rhoi gwybod i ni, rydych yn torri’r gyfraith. Gallech gael eich erlyn a chael dirwy.