Os ydych chi’n trefnu i’ch plentyn gael gofal gyda rhywun, rhaid i chi roi gwybod i’ch cyngor lleol. Dylech wneud hyn 6 wythnos cyn i’r trefniant ddechrau – os na allwch wneud hynny, mewn argyfwng er enghraifft, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl. Dim ond 48 awr sydd gennych yn ôl y gyfraith.
Mae’n dderbyniol gofalu am rywun am gyfnod byr, er enghraifft i helpu ffrind i wella ar ôl salwch neu ofalu am ffrind eich plentyn yn ystod gwyliau. Rhaid i chi ofalu am rywun am o leiaf 28 diwrnod mewn blwyddyn i hyn gyfrif fel maethu preifat.
Pa mor hen y mae’n rhaid i’r plant fod er mwyn i mi beidio â gorfod rhoi gwybod i chi?
16, neu 18 os oes ganddynt anabledd.
Beth yw ystyr ‘perthynas agos’?
Rhiant, tad-cu neu fam-gu, brawd, chwaer, ewythr, modryb neu lys-riant. Felly, er enghraifft, byddai cefnder/cyfnither sy’n edrych ar ôl plentyn yn ofalwr maeth preifat.
Ni fyddai rhywun sydd â chyfrifoldeb rhianta cyfreithiol dros blentyn yn ofalwr maeth preifat.
Beth fyddwch chi’n ei wneud ar ôl i mi roi gwybod i chi?
Byddwn yn:
- cynnig cyngor a chymorth
- sicrhau bod gennych chi’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch a bod gennym ni’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnom ni
- cadarnhau bod y gofalwr maeth preifat ac aelodau eraill y cartref yn addas i ofalu am y plentyn – bydd hyn yn cynnwys gwiriad iechyd a gwiriad y Swyddfa Datgelu a Gwahardd
- sicrhau bod cartref y gofalwr maeth preifat yn ddiogel
- ymweld â’r gofalwr maeth preifat a’r plentyn yn rheolaidd i wneud yn siŵr bod popeth yn mynd yn iawn
Beth fydd yn digwydd os na fyddaf yn rhoi gwybod i chi?
- bydd eich plentyn, eich teulu a’r gofalwr/gofalwyr maeth preifat yn colli allan ar ein cymorth
- Os ydych yn rhiant sy’n gadael i’ch plentyn gael gofal gan ofalwr maeth preifat ac nad ydych yn rhoi gwybod i ni, rydych yn torri’r gyfraith. Gallech gael eich erlyn a chael dirwy.
Os oes angen i chi roi gwybod i ni am drefniadau maethu preifat neu os hoffech siarad â ni i gael gwybodaeth a chyngor, ffoniwch:
Y Pwynt Cyswllt Plant
029 2053 6490
Dydd Llun i ddydd Gwener 8.30am-5pm
Os ydych am wneud hyn y tu allan i'r oriau hyn, cysylltwch â'r tîm argyfwng ar ddyletswydd ar 029 2078 8570.