Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Gwybodaeth a chymorth i ofalwyr maeth Caerdydd

Mae gwasanaeth maethu Caerdydd a’i ofalwyr maeth yn cydweithio’n agos i rannu gwybodaeth a phrofiad ac i ddatblygu a gwella’r gwasanaeth.  Mae’r rhan hon o’r wefan yn cynnig mwy o wybodaeth i ofalwyr maeth Caerdydd gan gynnwys gwybodaeth am gyfarfodydd grŵp cymorth a dolenni i wefannau a deunydd defnyddiol.   

 

Grwpiau Cymorth

 

Mae cyfarfodydd grŵp cymorth yn ffordd dda o gyfarfod â’r Tîm Maethu a staff arall y Gwasanaethau Plant. Bydd gan bob cyfarfod ei gadeirydd a’i agenda ei hun, siaradwr gwadd o wasanaeth neu asiantaeth briodol yn ogystal â rheolwyr o’r tîm maethu. I gael rhagor o wybodaeth ffoniwch y Swyddog Maethu ar Ddyletswydd ar 029 2087 3797.

 

Dyddiadau Grwpiau Cymorth 2014:  

 

  • Dydd Iau 19 Mehefin                    6 - 8pm
    Neuadd y Sir Caerdydd, Glanfa'r Iwerydd, Caerdydd 
  • Dydd Iau 9 Hydref             10am – 12pm
    Swyddfa Tai Taf, Heol y Bont-faen, Treganna, Caerdydd 
  • Dydd Iau 4 Rhagfyr           6 - 8pm
    Neuadd y Sir Caerdydd, Glanfa'r Iwerydd, Caerdydd

 

Boreau Coffi

 

Rydym yn cynnal grwpiau cymorth anffurfiol lle gall gofalwyr maeth alw heibio a chael paned. Cynhelir y rhain mewn lleoliadau amrywiol ar draws y Ddinas bob mis. I gael rhagor o wybodaeth ffoniwch y Swyddog Maethu ar Ddyletswydd ar 029 2087 3797.

 

Dyddiadau Boreau Coffi 2014:  

 

  • Dydd Iau 12 Mehefin                    10am – 12pm
  • Dydd Iau 11 Medi                        10am – 12pm
  • Dydd Iau 13 Tachwedd                10am – 12pm

 

Caiff yr holl foreau coffi eu cynnal yn swyddfa’r Gwasanaeth Maethu:

 

Canolfan Llaneirwg
112 Heol Maes Eirwg
Llaneirwg
Caerdydd
CF3 0JZ

 

Cysylltu â ni  

 

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am faethu ar ran Caerdydd cysylltwch â'n tîm maethu.



 

© 2022 Cyngor Caerdydd