MMae angen cartref sefydlog a chymorth ar nifer fach o bobl ifanc 10-18 oed yng Nghaerdydd tra eu bod ar fechnïaeth neu wedi’u remandio i ofal yr Awdurdod Lleol gan yr Heddlu neu’r Llysoedd Troseddol.
Cyn i ni ystyried cymeradwyo rhywun fel Gofalwr Gofal Remánd, byddem yn disgwyl iddo fod wedi cael cryn dipyn o brofiad blaenorol o faethu a/neu brofiad sylweddol yn gweithio gyda phobl ifanc sy’n ymddwyn yn heriol.
Mae Gofalwyr Remánd yn cael y cymorth canlynol gan ein Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid:
- cyswllt â staff goruchwylio Mechnïaeth fel y bo’n briodol (maent ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos)
- trafnidiaeth i wrandawiadau llys, ac ati
- pecynnau cymorth ychwanegol lle y bo’n briodol
- cymorth i asesu cynnydd a wneir gan y person ifanc er mwyn rhoi gwybod i’r Llys.
Byddem yn falch o glywed gan unrhyw un sydd â diddordeb mewn bod yn ofalwr ar y Cynllun Gofal Remánd.
Dysgwch fwy am y cymorth, y budd-daliadau a’r taliadau a gewch os byddwch yn penderfynu bod yn ofalwr ar y Cynllun Gofal Remánd.
Cysylltu â ni
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am faethu ar ran Caerdydd cysylltwch â'n tîm maethu.