Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Cynllun Gofal Remánd

MMae angen cartref sefydlog a chymorth ar nifer fach o bobl ifanc 10-18 oed yng Nghaerdydd tra eu bod ar fechnïaeth neu wedi’u remandio i ofal yr Awdurdod Lleol gan yr Heddlu neu’r Llysoedd Troseddol.


Cyn i ni ystyried cymeradwyo rhywun fel Gofalwr Gofal Remánd, byddem yn disgwyl iddo fod wedi cael cryn dipyn o brofiad blaenorol o faethu a/neu brofiad sylweddol yn gweithio gyda phobl ifanc sy’n ymddwyn yn heriol.


Mae Gofalwyr Remánd yn cael y cymorth canlynol gan ein Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid:


  • cyswllt â staff goruchwylio Mechnïaeth fel y bo’n briodol (maent ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos)
  • trafnidiaeth i wrandawiadau llys, ac ati
  • pecynnau cymorth ychwanegol lle y bo’n briodol
  • cymorth i asesu cynnydd a wneir gan y person ifanc er mwyn rhoi gwybod i’r Llys.


Byddem yn falch o glywed gan unrhyw un sydd â diddordeb mewn bod yn ofalwr ar y Cynllun Gofal Remánd.  


Dysgwch fwy am y cymorth, y budd-daliadau a’r taliadau a gewch os byddwch yn penderfynu bod yn ofalwr ar y Cynllun Gofal Remánd.

 

Cysylltu â ni  


Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am faethu ar ran Caerdydd cysylltwch â'n tîm maethu.



 

© 2022 Cyngor Caerdydd