Mae angen cartref cysurus a sefydlog ar nifer fawr o bobl ifanc yn eu harddegau yng Nghaerdydd.
Lluniwyd y Cynllun Arddegau ar gyfer gofalwyr sydd am arbenigo mewn gofalu am bobl ifanc 12-16 oed yn y byrdymor.
Mae pawb yn gwybod bod cyfnod yr arddegau'n un anodd. Efallai eich bod yn cofio teimlo’n unig neu fel nad oedd unrhyw un yn eich deall ond, i bobl ifanc sydd wedi cael amser arbennig o galed, gall y cyfnod hwn fod yn waeth o lawer.
Ar yr adeg bwysig hon yn eu bywydau, heb arweiniad a chymorth priodol maen nhw mewn perygl o droi at ymddygiad neu ffordd o fyw a allai gael effaith negyddol ar eu dyfodol.
Mae angen gofalwyr maeth sy’n oddefgar, amyneddgar a hyblyg ar bob person ifanc, rhywun sy'n gallu gosod ffiniau clir a chyson fel eu bod yn gwybod ble maen nhw'n sefyll. Bydd angen i chi wrando’n astud, helpu i wneud synnwyr o fyd sy'n ymddangos yn ddryslyd a rhoi gwybod iddyn nhw y gallant siarad â rhywun sydd yn poeni amdanynt.
Byddem yn falch o glywed wrth unrhyw un sydd â diddordeb mewn bod yn ofalwr ar y Cynllun Arddegau neu sydd ag ystafell wely sbâr (neu ddwy, neu dair)!
Dysgwch fwy am y cymorth, y budd-daliadau a’r taliadau a gewch os byddwch yn penderfynu bod yn ofalwr ar y Cynllun Arddegau.
Cysylltu â ni
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am faethu ar ran Caerdydd cysylltwch â'n tîm maethu [contact form to include phone number]