Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Bod yn ofalwr maeth

Er y gallai ymddangos yn broses eithaf hir i ddechrau, ni ddylai gymryd mwy na 6 i 8 mis rhwng adeg eich cais a phan gewch eich cymeradwyo. Mae'n siŵr eich bod yn deall bod y broses yn cymryd mor hir â hyn gan fod plant a phobl ifanc sy'n agored i niwed yn dod i fyw yn eich cartref ac mae’n rhaid i ni fod yn hollol siŵr y byddant yn ddiogel ac yn cael gofal da.

 

Gofynnwn i chi gytuno i gael asesiad o’ch gallu fel darpar ofalwr maeth. Bydd angen i chi ddangos bod gennych y sgiliau sydd eu hangen i ofalu am blant pobl eraill a’ch bod yn deall sut deimlad yw hi i blant gael eu gwahanu o’u teuluoedd.

 

Dyma’r camau nesaf fel arfer:

 

  • Bydd swyddog cymorth maethu yn ymweld â chi am sgwrs ar ofal maeth ac yn rhoi manylion am y broses asesu i chi.

 

 

  • Byddwn yn cynnal y profion hyn, yn gofyn i chi am brawf adnabod (fel pasbort, tystysgrif geni neu dystysgrif priodas) ac yn gofyn i chi gael prawf iechyd i sicrhau nad oes gennych unrhyw broblemau iechyd mawr.

 

  • Cewch eich gwahodd i fynychu hyfforddiant (sgiliau maethu) cyn cael eich cymeradwyo, lle byddwch yn dysgu mwy am yr hyn y gallwch ei ddisgwyl wrth faethu. Mae hwn hefyd yn gyfle i gwrdd â phobl eraill sy’n mynd drwy’r broses a siarad â gofalwyr maeth profiadol.

 

  • Penodir gweithiwr cymdeithasol i weithio gyda chi a fydd yn esbonio’r sgiliau a’r nodweddion sydd eu hangen ar ofalwyr maeth a sut i’w harddangos drwy enghreifftiau ymarferol o’r hyn rydych yn ei wneud, neu drwy sgyrsiau manwl.

 

  • Bydd y gweithiwr cymdeithasol yn trefnu apwyntiadau rheolaidd i gwrdd â chi ac, yn ystod y sesiynau hyn, byddwch yn trafod pynciau amrywiol ynghylch anghenion, niferoedd ac oedrannau’r plant y gallech eu maethu.

 

  • Byddwn ni'n cysylltu â'ch geirdaon personol a phroffesiynol. Ac, os oes gennych unrhyw gyn bartneriaid a oedd yn byw gyda chi, efallai y bydd angen i ni siarad â nhw hefyd.

 

  • Caiff yr holl wybodaeth ei rhoi at ei gilydd gan y gweithiwr cymdeithasol a fydd yn llunio adroddiad yn amlinellu eich sgiliau, eich anghenion hyfforddi yn y dyfodol a meysydd lle y gallai fod angen rhagor o help arnoch. Cewch weld adroddiad y gweithiwr cymdeithasol ac, os byddwch yn cytuno ag ef, gallwch gyflwyno eich sylwadau eich hun yn ysgrifenedig.

 

  • Yna cyflwynir yr adroddiad hwn i banel maethu i’w galluogi i wneud argymhelliad o ran eich cymeradwyo fel gofalwr maeth. Fe’ch gwahoddir i fynychu’r cyfarfod hwn gyda’ch gweithiwr cymdeithasol.

 

  • Y panel maethu fydd yn eich cymeradwyo fel gofalwr maeth. Os na chewch eich cymeradwyo bydd y gweithiwr cymdeithasol yn trafod y rhesymau gyda chi a bydd swyddog penderfyniadau’r asiantaeth yn ysgrifennu atoch. Weithiau bydd yn bosibl i chi ailymgeisio. Pan gewch eich cymeradwyo, cewch ragor o wybodaeth am gyfleoedd hyfforddi ac enw’r gweithiwr cymdeithasol goruchwyliol a fydd yn eich cefnogi fel gofalwr maeth.

 

  • Lleolir plentyn neu berson ifanc gyda chi. Bydd ei oedran a hyd ei arhosiad yn dibynnu ar y math o ofal maeth y cawsoch eich cymeradwyo ar ei gyfer.

 

  •  Bydd angen i chi gael eich ail-gymeradwyo bob blwyddyn. Caiff eich cymeradwyaeth ei hadolygu hefyd pan fydd newidiadau sylweddol yn eich amgylchiadau, e.e. os byddwch yn symud tŷ.

 

Cysylltu â ni  


Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am faethu ar ran Caerdydd cysylltwch â'n tîm maethu.


029 20873797
© 2022 Cyngor Caerdydd