Rhoi gofal a bywyd teuluol diogel a sefydlog i blentyn rhywun arall neu berson ifanc yw maethu, a hynny yn eich cartref eich hun. Gallai hynny fod am gyfnod byr neu hir, neu i roi gwyliau byr (gofal seibiant) i blentyn neu ei deulu.
Nid yw maethu yn rhywbeth y bydd rhaid i chi wneud ar eich pen eich hun. Drwy ddod yn Ofalwr Maeth yng Nghaerdydd byddwch yn dod yn aelod pwysig o’r tîm maethu, a byddwch yn gweithio’n agos ac yn cael cefnogaeth gan y canlynol:
- gweithwyr cymdeithasol
- gofalwyr maeth eraill
- teuluoedd mabwysiadol
- gweithwyr iechyd proffesiynol
- arbenigwyr addysg
- rhieni neu deulu'r plentyn.
Nid yw dewis maethu yn benderfyniad i’w wneud ar chwarae bach. Gall fod angen maethu plant am nifer o resymau; efallai bod eu rhieni yn sâl, yn cael problemau â’u perthynas neu yn y carchar, a bydd rhai plant wedi cael eu hesgeuluso neu eu cam-drin. I’ch cefnogi, bydd gennych weithiwr cymdeithasol a fydd yn rhoi cymorth ac anogaeth i chi bob cam o’r daith gan eich sicrhau eich bod yn gwneud y penderfyniadau cywir.
Rydym yn ceisio paru plant yn ofalus â gofalwyr maeth a all ddiwallu eu hanghenion penodol, fel na fyddwch yn teimlo fel nad ydych yn gallu rhoi'r math o ofal sydd ei angen. Oherwydd ein gofalwyr maeth, mae rhai o blant Caerdydd yn wynebu dyfodol hapusach.
Rôl gofalwr maeth
Pam y gallai fod angen gofal maeth ar blant?
Mae nifer o resymau pam y gallai fod angen gofal maeth ar blant. Ymhlith y rhain mae’r canlynol:
- Mae rhieni naturiol y plant yn cael trafferth ymdopi ag anghenion sawl plentyn ac mae angen seibiant arnynt
- Mae rhieni’r plant yn sâl neu'n methu â gofalu am eu plant
- Mae plentyn mewn perygl o ddioddef camdriniaeth gorfforol, emosiynol neu rywiol
- Mae'r plant ar eu pen eu hunain ar ôl dianc o wledydd dan gysgod rhyfel.
Mae angen gofalwyr o bob math arnom, ond yn gyffredinol mae prinder gofalwyr ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau, gofalwyr ar gyfer brodyr a chwiorydd (mae’n bwysig dros ben ein bod yn cadw teuluoedd gyda’i gilydd os gallwn wneud hynny) a gofalwyr sydd o grwpiau du neu leiafrifoedd ethnig neu sydd mewn perthynas ethnigrwydd cymysg.
Y camau nesaf
Ar ôl i chi siarad ag aelod o’n tîm, bydd y Swyddog Cymorth Maethu yn cynnig ymweld â chi i drafod maethu ymhellach ac ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych.
Os ydych yn barod i fynd ymlaen â’ch cais i ddod yn ofalwr maeth, byddwn yn rhoi cymorth i chi lenwi pecyn cais. Yn dilyn asesiad cychwynnol, byddwn yn eich rhoi mewn cysylltiad â gweithiwr cymdeithasol a fydd yn cynnal asesiad arall manylach gyda chi.
Datganiad o Ddiben Maethu (175kb PDF)Dolen yn agor mewn ffenestr newydd
Cysylltu â ni
Cysylltwch â’n tîm maethu a fydd yn hapus i'ch ffonio nôl a rhoi mwy o wybodaeth i chi am y mathau o faethu sydd ar gael yng Nghaerdydd ac esbonio’r camau nesaf os hoffech ymuno â’n tîm. Byddwn hefyd yn anfon un o’n Pecynnau Gwybodaeth am Faethu atoch.
029 20873797