Mae yfed mwy na’r hyn a argymhellir yn effeithio ar eich iau/afu, stumog a chalon ac yn cynyddu eich siawns o gael canser, trawiad ar y galon a phroblemau o ran ffrwythlondeb.
Os hoffech siarad â rhywun am alcohol neu gyffuriau, un ai ar eich rhan eich hun neu er mwyn helpu rhywun agos, mae amrywiaeth o wasanaethau ar gael yng Nghaerdydd.
Tîm Alcohol a Chyffuriau Caerdydd
Mae TAChC (Tîm Alcohol a Chyffuriau Caerdydd) yn cynnig help ymarferol, cyfarwyddyd, gwasanaeth cwnsela a gofal cymdeithasol i bobl y mae camddefnyddio sylweddau yn effeithio ar eu bywydau.
Mae tîm gwaith cymdeithasol TAChC yn gweithio gydag unigolion i nodi ac asesu eu hanghenion, gan awgrymu a chynnig cyngor o ran unrhyw wasanaethau priodol sydd ar gael.
Mae tîm TAChC hefyd yn cynnig cwnsela ar sail un wrth un.
029 2078 8300