Mae Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion yn gweithio mewn partneriaeth â darparwyr gofal cymdeithasol yn y sector annibynnol. Y nod yw rhoi mynediad i wasanaethau sy’n hyrwyddo ac yn cefnogi annibyniaeth pobl.
Mae’r rhestr Darparwyr Gofal Cymeradwy yn rhoi gwybodaeth am ddarparwyr gofal cymdeithasol sydd wedi’u cofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru ac sydd wedi’u cymeradwyo neu eu hachredu i roi gwasanaethau gofal ar ran Cyngor Caerdydd.
Gweler y rhestr ar gyfer Asiantaethau Gofal Cartref Achrededig a Chartrefi Gofal Preswyl a Nyrsio Cymeradwy.
Mae pob asiantaeth gofal cartref sydd wedi’i achredu gan Gyngor Caerdydd yn gofrestredig gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC).
Mae pob Cartref Gofal Preswyl a Nyrsio wedi’u cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru