Os ydych yn ofalwr di-dâl yng Nghymru sy'n derbyn Lwfans Gofalwr ar 31 Mawrth 2022, gallwch wneud cais am daliad untro o £500.
Diben y taliad hwn yw cydnabod eich rôl bwysig a'ch helpu gyda'r pwysau ariannol cynyddol a gawsoch drwy gydol y pandemig.
Rydych yn gymwys os ydych yn ofalwr di-dâl am o leiaf 35 awr yr wythnos ar incwm isel ac yn derbyn Lwfans Gofalwr ar 31 Mawrth 2022.
Gwneud cais
Mae'r cynllun bellach wedi cau.