Mae’r gwasanaeth Synhwyrau yn cynorthwyo pobl sydd wedi colli eu golwg neu'r clyw.
Ar ôl asesiad, gallwn gynnig gwasanaethau arbenigol i bobl cymwys i fodloni eu hanghenion yn y ffordd orau.
Gwasanaethau i bobl sydd â nam ar y golwg neu’r clyw
Rydym yn cynnig cymorth, gwybodaeth a chyngor i oedolion sydd wedi colli eu golwg a’u clyw yn sylweddol.
Ar ôl cael eu hardystio gan ymgynghorydd, gallwn gofrestru pobl yn bobl sydd â nam ar y golwg neu’r clyw, naill ai’n rhannol neu’n ddifrifol.
Yn dilyn asesiad arbenigol o’ch anghenion, gallem gynnig:
- Hyfforddiant ac offer i hybu eich diogelwch a’ch annibyniaeth
- Cyfeiriad at asiantaethau neu weithwyr proffesiynol eraill am wybodaeth, cyngor a gwasanaethau
- Cymorth gofal yn eich cartref eich hun ac i’ch helpu i ddefnyddio cyfleusterau cymunedol
- Cymorth a chyngor ar gyfer pobl ifanc 18-25 wrth iddynt symud o’r ysgol i addysg bellach a byd gwaith.
Rydym yn cynnig offer i bobl â theclyn clyw sy’n gweithio ar ôl iddynt gael eu hasesu gan glywedegwr yn unig, ac eithrio mewn amgylchiadau arbennig.
Gwasanaethau ar gyfer Pobl Fyddar sy’n defnyddio iaith arwyddion
Ar ôl i weithwyr proffesiynol sydd â sgiliau iaith arwyddion asesu eich anghenion, gallwn gynnig:
- gwybodaeth a chyngor yn Iaith Arwyddion Prydain
- cymorth a chyngor ar gyfer pobl ifanc 18-25 wrth iddynt symud o’r ysgol i addysg bellach a byd gwaith.
- cofrestru pobl gyda’r awdurdod lleol
- cysylltu ag asiantaethau eraill gan gynnwys hybu cyfle cyfartal o ran sicrhau gwasanaethau ar gyfer pobl Fyddar
- offer arbenigol i hybu annibyniaeth
- gwasanaethau gofal – gofalwr cartref a gweithwyr cymorth arbenigol â sgiliau Iaith Arwyddion Prydain sydd wedi cael hyfforddiant cydraddoldeb byddar/ymwybyddiaeth am fyddardod
Sut i ofyn am ein gwasanaethau?
Os ydych yn adnabod rhywun a all fod angen ein help a’n cymorth, ffoniwch ni ar
029 2087 2088