Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Grant Cyfleusterau ir Anabl

​Nod y Grant Cyfleusterau i’r Anabl yw eich galluogi i symud yn well yn eich cartref ac o'i gwmpas. Mae’r grant yn helpu gyda chostau addasu eich cartref er mwyn bodloni eich anghenion. 

Pwy sy’n gallu cyflwyno cais am Grant Cyfleusterau i’r Anabl? 

Gall perchen-feddianwyr, landlordiaid a thenantiaid preifat gyflwyno cais am y grant hwn er mwyn addasu eiddo, ar yr amod bod person anabl yn byw yn yr eiddo fel prif annedd. 

Mae angen i denantiaid y cyngor a thenantiaid cymdeithas tai gyflwyno cais i'w landlordiaid yn gyntaf oherwydd gallent gael help i addasu eu cartrefi heb gyflwyno cais am grant. 

Ar gyfer beth gallaf ddefnyddio’r grant?

Efallai bod angen addasu a newid eich cartref i sicrhau’r canlynol: 

  • system golau a gwres gwell a rheolyddion;
  • cyfleusterau golchi ychwanegol, e.e. cawod gyda mynediad ar y llawr;
  • y gallu i goginio’n haws, e.e. darparu unedau isel;
  • y gallu i symud yn well o gwmpas y tŷ a chael mynediad gwell at ystafelloedd a chyfleusterau, e.e. lledu drysau, gosod rampiau neu gadair esgyn;
  • addasu’r ystafell ymolchi e.e. darparu cawod gyda mynediad ar y llawr, toiled a basn ymolchi hygyrch. 

Bydd gweithiwr proffesiynol, fel therapydd galwedigaethol, yn asesu pa waith sy’n addas ac yn angenrheidiol.  

Faint fyddaf yn ei gael? 

Mae’r swm yn dibynnu ar asesiad ariannol o incwm eich tŷ a chynilion dros £6,000. Nid oes rhaid i deuluoedd y mae ganddynt blant anabl dan 19 gael eu hasesu.

£36,000 yw’r grant uchaf yn gyffredinol, llai unrhyw gyfraniad gennych chi fel yr aseswyd. 

Sut gallaf gyflwyno cais am y grant? 

Os hoffech i ni wneud asesiad er mwyn cyflwyno cais am Grant Cyfleusterau i’r Anabl, ffoniwch ni ar

029 2023 4222 - tîm Therapi Galwedigaethol (Oedolion)
029 2053 6490 - tîm iechyd ac anabledd plant (Plant)

© 2022 Cyngor Caerdydd