Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

​​​​​​​Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn tarfu ar gymdogaeth ac yn cynhyrfu neu'n dychryn pobl sy'n byw yn yr ardal honno. 


​Gallai hyn fod oherwydd:

  • Sŵn uchel

  • Rhywun sy'n ymddwyn mewn ffordd fygythiol, ymosodol neu dreisgar tuag at eu cymdogion neu eu cymuned

  • Rhywun sy'n caniatáu i'w eiddo gael ei ddefnyddio ar gyfer gweithgaredd troseddol fel gwerthu cyffuriau

 

Os yw'ch cymydog yn gwneud rhywbeth sy'n eich cythruddo neu sydd ddim ond yn digwydd yn achlysurol, nid yw hynny'n golygu ei fod yn ymddygiad gwrthgymdeithasol. 

Dylech ystyried a yw eu hymddygiad yn wirioneddol afresymol a cheisio datrys unrhyw broblemau gyda'ch cymydog cyn cysylltu â ni neu'r heddlu.

Os hoffech chi fwy o wybodaeth neu gyngor, mae croeso i chi gysylltu â ni.


Mae achosion ymddygiad gwrthgymdeithasol yn aml yn gymhleth a gallant gymryd amser hir i'w datrys. 

Pan fydd tenantiaid y cyngor yn adrodd am ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n cynnwys tenant cyngor arall, byddwn yn:

  • Neilltuo atgyfeiriad i Swyddog Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 
  • Cadw mewn cysylltiad â’r achwynwyr trwy gydol oes achos
  • Gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau ac asiantaethau megis Heddlu De Cymru
  • Cynnig cefnogaeth briodol i achwynwyr - gall hyn gynnwys Cymorth i Ddioddefwyr
  • Ceisio datrys cwynion am ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn modd adferol 
  • Cynnal arolwg â sampl o denantiaid ynghylch sut roedd eu hachosion wedi cael eu rheoli
  • Ar gyfer atgyfeiriadau brys, byddwn yn cysylltu o fewn 1 diwrnod gwaith


Gallwn ond ddelio ag adroddiadau am ymddygiad gwrthgymdeithasol gan denantiaid y Cyngor, neu’r rheiny sydd wedi’u heffeithio gan ymddygiad tenantiaid y Cyngor.

Ar gyfer adroddiadau am fathau eraill o ymddygiad, byddwn yn anelu at gysylltu â chi cyn pen 7 diwrnod gwaith.

Bydd swyddog Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn darparu diweddariadau ac yn rhoi camau perthnasol ar waith i sicrhau bod achosion yn symud yn eu blaen.

Gallwch adrodd am Ymddygiad Gwrthgymdeithasol i'r Tîm Ymddygiad Gwrthgymdeithasol trwy’r dulliau canlynol:


Os ydych chi'n teimlo eich bod mewn perygl uniongyrchol neu'n credu bod trosedd yn digwydd, ffoniwch 999 ac adroddwch yr achos i'r heddlu.

Mae'n anodd datrys atgyfeiriadau dienw ac mae angen i ni sicrhau nad yw atgyfeiriadau’n rhai maleisus neu’n ddi-sail.

Bydd angen eich manylion cyswllt arnom i ymchwilio i'r gŵyn ac i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y cynnydd a wnaed.
  • Sicrhau bod camau cyflym yn cael eu rhoi ar waith i ddelio ag unrhyw droseddau casineb, gwahaniaethu anghyfreithlon ac aflonyddu
  • Parhau i weithio mewn partneriaeth â Heddlu De Cymru ac asiantaethau eraill
  • Adfywio mannau trafferthus ledled y ddinas
  • Gwasanaeth cyfryngu cymunedol am ddim er mwyn helpu i ddatrys anghydfodau cymdogion
  • Darparu mesurau amddiffyn a chefnogaeth i achwynwyr, dioddefwyr neu dystion

Rydym yn cydnabod y gallai rhai pobl sy'n achosi ymddygiad gwrthgymdeithasol fod yn wynebu problemau eu hunain.

Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda phobl i'w helpu i fynd i'r afael â'u hymddygiad a chael mynediad at y gefnogaeth gywir i wneud hyn.

Rydym wedi ymrwymo i helpu pobl i aros yn eu cartrefi a chynnal eu tenantiaethau.

Mewn achosion difrifol a pharhaus efallai y byddwn yn rhoi camau cyfreithiol ar waith, ond pan fetho popeth arall yw hwn bob amser. Pan fyddwn yn penderfynu gwneud hyn byddwn yn gweithio gyda'r bobl yr effeithir arnynt ac yn cynnig cefnogaeth ac arweiniad.
Mae'r Adolygiad Cymunedol yn galluogi dioddefwyr ymddygiad gwrthgymdeithasol parhaus, sydd wedi adrodd am ddigwyddiadau i un neu fwy o asiantaethau o'r blaen, ofyn am adolygiad o'u hachos pan fônt yn teimlo nad yw'r camau a roddwyd ar waith yn ddigonol. 

Yr asiantaethau yng Nghaerdydd yw'r Cyngor, Heddlu De Cymru, Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro, a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig lleol. Gellir cychwyn yr Adolygiad Cymunedol os yw'r dioddefwr wedi adrodd am dri digwyddiad yn ymwneud â'r un mater i'r asiantaethau a restrir yn ystod y 6 mis diwethaf.

Gweler y wefan Adolygiad Achos Ymddygiad Gwrthgymdeithasol.​​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd

 


Cysylltu â ni


​​​​​​​​​​
​​

© 2022 Cyngor Caerdydd