Trosedd ar garreg y drws yw pan fydd twyll fasnachwyr yn dod i’ch drws ac yn rhoi pwysau arnoch yn anghyfreithlon i brynu rhywbeth neu gofrestru am wasanaeth.
Gallai fod yn hawdd meddwl mai dim ond ar bobl hŷn y mae hyn yn effeithio. Fodd bynnag, mae nifer o resymau gwahanol pam y gallai person fod yn agored i ddioddef o drosedd ar garreg y drws, fel:
- profedigaeth ddiweddar yn y teulu
- problemau iechyd meddwl
- salwch, neu unrhyw anabledd corfforol
- byw ar eu pen eu hunain
- allgáu cymdeithasol
- bod yn rhiant sengl â phlant ifanc
Sut i adrodd trosedd ar garreg y drws
Dylech adrodd unrhyw weithgaredd i ni rydych yn amau y gallai fod yn drosedd garreg y drws:
Adrodd trosedd ar garreg y drws
Os ydych yn teimlo dan fygythiad mewn unrhyw ffordd, neu fod trosedd wedi’i chyflawni (fel byrgleriaeth) dylech ffonio’r heddlu:
101 os nad oes argyfwng
neu
999 mewn argyfwng
Noder: Nid yw masnachwyr yn dod i’ch drws yn ddiwahoddiad yn drosedd. Dysgwch fwy yn
alwyr diwahoddiad