Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Cydsyniad i Gyrsiau Dŵr Arferol

​​​Diben cydsyniad i gyrsiau dŵr arferol yw rheoli gweithgareddau penodol a allai effeithio’n negyddol ar y risg o lifogydd a’r amgylchedd. Mae’n ofynnol i Gyngor Caerdydd ystyried deddfau a rheoliadau eraill, a’r rhai sy’n ymwneud â’r amgylchedd yn arbennig.
   
Rydym yn argymell bod perchnogion a datblygwyr tir yn cysylltu â ni cyn gynted â phosibl i drafod y cynigion er mwyn penderfynu a yw’r cais yn ddichonol. Gallwn helpu i nodi unrhyw rannau arbennig o broblemus gan osgoi gwastraffu amser ac arian i’r ddau barti.
 
Drwy’r sgyrsiau cynnar hyn gellir hefyd adnabod opsiynau posibl eraill a thynnu sylw at unrhyw faterion eraill i’w hystyried.

Mae cwrs dŵr arferol yn gwrs dŵr nad yw’n rhan o brif afon. Mae hynny’n cynnwys:

  • nentydd,
  • draeniau,
  • ceuffosydd,
  • cloddiau,
  • ffosydd, a
  • sianeli sy’n llwybr i ddŵr.



Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn parhau i gydsynio i waith ar Brif Afonydd ac mae modd gweld y map anstatudol sy’n dangos y Prif Afonydd sydd ar gael ar ei wefan.
Bydd angen cydsyniad i sicrhau nad yw’r gwaith ar gyrsiau dŵr arferol yn gwaethygu risg o lifogydd nac yn andwyo’r amgylchedd. Bydd angen Cydsyniad i Gwrs Dŵr Arferol yn yr achosion canlynol:

  • unrhyw waith sy’n debygol o effeithio ar y llif o fewn cwrs dŵr arferol;
  • unrhyw waith ar geuffosydd (gan gynnwys rhannau newydd a gynigir a newid rhai sydd eisoes yn bodoli); a
  • gwaith dros dro a gwaith parhaol.


Pan fo’n briodol, bydd cydsyniad gan Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru (Cyfoeth Naturiol Cymru bellach) yn ddilys os nad yw cyfnod y cydsyniad wedi dod i ben.
Gweler manylion yn y Ddeddf Draenio Tir.
Bydd angen i chi gyflwyno'ch cais i ni, gan gynnwys:
  • ffurflen gais,
  • ffi o £50 am bob strwythur,​ a
  • dogfennau cysylltiedig.






Ar ôl derbyn eich cais mae cyfnod penderfynu statudol o ddau fis. Ar ôl yr amser hwn, bydd y cais naill ai'n cael ei ganiatáu gydag amodau neu'n cael ei wrthod.

Rhaid i chi gwblhau'r gwaith o fewn y cyfnod a nodir ar bob unigolyn a roddwyd caniatâd.

Gallwn osod amodau penodol i unrhyw gais a roddwyd, megis i amodi amseriad a dull y gwaith, er mwyn sicrhau bod gwaith yn cael ei wneud mewn modd sensitif.

Cwblhewch y ffurflen gais am Ganiatâd Cwrs Dŵr Cyffredin a'u cyflwyno i:



Post:

Rheoli Perygl Llifogydd ac Arfordiroedd
Cyngor Caerdydd
Neuadd y Sir
Glanfa'r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW
Byddwn yn ystyried effaith y gwaith a gynir ar y risg o lifogydd a’r amgylchedd. Byddwn yn sicrhau bod asesiadau gofynnol wedi’u cwblhau, megis Asesiad y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr ac Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol.

Mae modd i Gyngor Caerdydd roi cyngor cyffredinol o ran pa asesiadau y dylid eu cwblhau ond yn y pen draw y Datblygwyr sy’n gyfrifol am wneud hynny.

Byddwn yn ystyried cydymffurfiaeth â’r ddeddfwriaeth y mae ein cylch cyfrifoldeb yn ei chwmpasu, gan gynnwys:

  • Deddf yr Amgylchedd (1995);
  • Rheoliadau Cynefinoedd (2010);
  • Y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr (2000/60/EC);
  • Rheoliadau Llysywod (2009);
  • Deddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw (1975); a
  • Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy (2000).


Byddwn hefyd yn ystyried a yw’r gwaith yn digwydd ar safle dynodedig, gan gynnwys:

  • Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig;
  • Ardal Cadwraeth Arbennig; neu
  • Ardal Gwarchodaeth Arbennig.


Os yw asesiad Cyfarwyddeb Fframwaith Dŵr yn ofynnol ond heb ei gwblhau, caiff y cydsyniad ei wrthod a hynny fydd y rheswm. Gellir penderfynu gwrthod ar sail gwarchodaeth natur yn unol â’r deddfau canlynol: Deddf Draenio Tir (Adran 61B); Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad ar gyfer SoDdGA (Adran 28G a 28I) a Deddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig (Adran 40).
Rhaid i ymgeisydd wneud yn siŵr nad yw gwaith yn dwysáu risg o lifogydd a bod ganddynt gydsyniad a chaniatâd gan unrhyw berchnogion a meddianwyr tir y bydd y gwaith yn effeithio arnynt.

Nid yw cydsyniad i gwrs dŵr arferol gan y Cyngor yn dileu’r angen am ganiatâd, trwyddedau, cymeradwyaeth neu ganiatâd arall. Chi hefyd sy’n gyfrifol am ymgynghori â Chyfoeth Naturiol Cymru os oes rhywogaethau dan warchodaeth ar y safle.

Os oes angen rhagor o wybodaeth i wneud penderfyniad, chi sy’n gyfrifol am wneud hynny mewn da bryd a chan gydnabod y caiff penderfyniad ei wneud ddeufis ar ôl i’r cais gael ei gwblhau a’i gyflwyno. Os na fydd digon o wybodaeth gennym, ni fyddwn yn rhoi cydsyniad oherwydd hynny.

Os nad ydych yn cwblhau’r ffurflen gais am gydsyniad yn drylwyr ac yn gywir gan gynnwys llofnod, caiff y cais ei ohirio a’i anfon yn ôl atoch.
Mae safle dynodedig yn ardal neu ardaloedd â statws arbennig ac fel ardaloedd dan warchodaeth oherwydd eu pwysigrwydd naturiol a diwylliannol. Dyma enghreifftiau:

  • SoDdGA (Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig),
  • ACA (Ardal Cadwraeth Arbennig),
  • AGA (Ardal Gwarchodaeth Arbennig).


Pan fo gwaith i gwrs dŵr arferol ar safle dynodedig, byddwn yn ymgynghori â Chyfoeth Naturiol Cymru ac yn rhoi ystyriaeth ddigonol i’w sylwadau, cyfyngiadau a’r amodau y maent yn eu hawgrymu.

Os yw’r gwaith yn digwydd ar safle lle y mae rhywogaethau dan warchodaeth, rhaid i’r ymgeisydd gysylltu â Chyfoeth Naturiol Cymru’n uniongyrchol rhag ofn bod angen trwydded i wneud y gwaith dan ddeddfwriaeth rhywogaethau dan warchodaeth.
Diben rheoleiddio gwaith i gyrsiau dŵr arferol yw sicrhau nad yw unrhyw waith yn effeithio’n negyddol ar y risg o lifogydd neu ar yr amgylchedd. I sicrhau hynny, mae gennym bwerau gorfodi penodol dan Ddeddf Draenio Tir 1991 yn achos gwaith heb ganiatâd neu waith nad yw’n cydymffurfio â manylion cydsyniad a gymeradwyir.

Mae camau gorfodi’n cael eu rhoi ar waith i unioni gweithredoedd heb awdurdod, neu nad ydyn nhw’n gyfreithlon sy’n amharu ar lif y dŵr mewn unrhyw gwrs dŵr. Bydd unrhyw gamau gorfodi’n seiliedig ar asesiad risg a difrifoldeb y diffyg cydymffurfio.
 
Wrth ystyried camau gorfodi, bydd y Cyngor yn ceisio datrys drwy drafod yn gyntaf ym mhob achos. Bydd y dull gorfodi arferol yn cynnwys:

  • Ymweliadau â safleoedd a chyfarfodydd gyda’r troseddwr;
  • Cyflwyno llythyrau cynghorol;
  • Cyflwyno llythyrau rhybudd ffurfiol;
  • Cyflwyno hysbysiadau Cyfreithiol sy’n gofyn am waith unioni;
  • Erlyn ac adennill costau erlyn; a
  • Gwaith unioni gan y Cyngor ac ailgodi costau am y gwaith hwnnw.


Gweithredir y camau gorfodi yn unol â Deddf Draenio Tir 1991. Ni allwn roi cysyniad sy’n ôl-ddyddia ar gyfer gwaith sydd wedi ei gwblhau a bydd gwaith felly yn destun camau gorfodi.
Rydym yn annog trafodaethau cyn gwneud cais. Bydd y trafodaethau cynnar hyn yn penderfynu a ellid ystyried dewisiadau eraill mwy addas nad oes angen cydsyniad ar eu cyfer a hefyd sicrhau na fyddai effaith andwyol o risg llifogydd.

Os oes gennych ymholiadau sy’n berthnasol i gydsyniad cwrs dŵr arferol, cysylltwch â ni.

E-bost. RhLlD@caerdydd.gov.uk​

Rheoli Perygl Llifogydd a’r Arfordir
Cyngor Caerdydd
Neuadd y Sir
Glanfa’r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW
​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd