Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Gatiau lonydd cefn

​​​​​​​

Rydym yn defnyddio gatiau lonydd cefn:

  • i fynd i'r afael â throsedd ac anhrefn,
  • i helpu i leihau'r ofn o droseddu, ac
  • i adennill hyder y gymuned.
    ​​

Mae gatiau lonydd cefn yn cyfyngu mynediad cyhoeddus i lôn gefn drwy osod gatiau y gellir eu cloi. Os ydych chi'n berchen ar eiddo cyfagos neu'n byw ynddo, gallwch gael allwedd. 

Rydym yn defnyddio Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus (o dan y Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona) i roi'r cyfyngiadau ar waith.​

Gallwch weld:

Adrodd am broblem gyda gât lôn gefn

Os ydych wedi gweld unrhyw broblemau gyda gât lôn gefn, rhowch wybod i ni.​​ ​​

Sut i wneud cais am gât lôn gefn 

Os hoffech weld a yw lôn gefn ar ein rhestr o geisiadau, neu i wneud cais newydd, anfonwch e-bost atom: Adfywio@caerdydd.gov.uk. 

Sylwch efallai na fyddwn yn gallu gosod gât ar lôn gefn. Mae sawl ffactor i'w ystyried:​​​​​
 

  • Lefelau ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac a yw gosod lôn gefn yn ateb priodol.
  • Ai'r lôn yw'r brif fynedfa neu'r unig ffordd o gael mynediad i dir hamdden, eiddo preswyl a/neu fusnes.
  • Os a sut y gall gatiau effeithio ar gymdogion a'r gymuned.
  • A oes llwybr amgen cyfleus.
  • A fydd gosod gatiau yn ymyrryd â phethau fel mynediad i garej, neu geblau a draeniau tanddaearol.​​


Rydym wedi ymrwymo i raglen 2 flynedd o gynlluniau gatio. Pan ddaw hyn i ben, byddwn yn adolygu ein rhestr o geisiadau am y ddwy flynedd nesaf (yn amodol ar gyllid ac adnoddau).​​​​ 

Byddwn yn cynnal proses lawn ar gyfer pob lôn gefn cyn y gallwn wneud penderfyniad terfynol. Mae'r broses hon yn cynnwys:​​ 

  • ymchwiliadau technegol pellach,
  • ymgynghori â phreswylwyr, ac
  • ystyried unrhyw sylwadau a godwyd.

 

Darganfyddwch fwy am y rhaglen gatiau lonydd cefn gyfredol.​ 

Sut i wneud cais am allwedd i lôn gefn​​​​ 

Os nad ydym wedi gatio'r lôn gefn eto, cysylltwch â ni yn Adfywio@caerdydd.gov.uk am fwy o wybodaeth ynghylch sut i gael allweddi. Unwaith y byddwn wedi gosod y gatiau, bydd angen i chi gasglu'r allweddi o Hyb y Llyfrgell Ganolog. Gwnewch yn siŵr eich bod yn dod â phrawf adnabod dilys. 

Mae allweddi ychwanegol neu yn lle allweddi blaenorol yn costio £10 yr un. 

Os ydych yn berchen ar eiddo sy'n ffinio â lôn gefn wedi'i gatio, neu os ydych yn denant, gallwch gael allwedd ar gyfer gât y lôn gefn. 

Os ydych yn berchennog eiddo, bydd angen i chi ddarparu 2 fath o brawf adnabod (gan gynnwys 1 ffotograffig) i brofi pwy ydych a'ch cyfeiriad. 

Os ydych yn denant, i brofi pwy ydych a'ch cyfeiriad, bydd angen i chi ddarparu:​
​​

  • caniatâd ysgrifenedig gan eich landlord, a
  • 2 fath o brawf adnabod (gan gynnwys un ffotograffig).


​​​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd